Y Capel
Lleolir y brif fynedfa i’r Capel gyferbyn â’r Cwad yn yr Hen Goleg. Mae’r Capel ar gael drwy’r dydd fel lle tawel i weddïo, myfyrio neu fod yn llonydd. Gallwch oleuo cannwyll fel arwydd o’ch gweddi dros rywun neu adael cais ar y bwrdd gweddi, gan wybod y bydd rhywun arall yn parhau i weddïo dros eich consyrn penodol chi.

