Lectio Divina

Dadlapio’r rhodd

Dull hynafol o weddïo gyda’r Ysgrythurau ydy Lectio Divina (y term Lladin ar gyfer ‘darllen sanctaidd’). Mae’n ffordd hynod o syml i fyfyrio’n ddwys ar eiriau sy’n ein gwahodd ni i fywyd ehangach a dyfnach na fedrwn ni ei ddychmygu. Bob wythnos, myfyriwn ar yr Efengyl a benodir ar gyfer y Sul canlynol, gan ddechrau'r paratoad ysbrydol ar gyfer dathliadau’r Sul trwy geisio gweu gair Duw i’n bywydau dyddiol.

Bob Dydd Llun yn y Capel o 3.15pm tan 4.00pm.

“Gwrando gyda ‘chlust ein calonnau’”
Sant Bened, o Ragair y Rheol