Cymdeithas Dewi Sant

Mae’r gymdeithas ar hyn o bryd wedi’i atal dros dro, ond os yw’r wybodaeth sy’n dilyn o ddiddordeb neu ddefnydd i chi croeso i chi ei ddefnyddio yn y modd mwyaf pwrpasol i chi.

Mae Cymdeithas Dewi Sant yn un o gymdeithasau hynaf y Brifysgol. Gall olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1910, pan y’i gelwid y Gymdeithas Gatholig. Sefydlwyd y gymdeithas pan ddaeth nifer fawr o ddynion (bryd hynny dynion yn unig a dderbynnid i’r coleg) catholig eu ffydd o dan reol bywyd yn seiliedig ar dri amcan: dyfnhau’r bywyd ysbrydol; meithrin ymdeimlad o gymdeithas a meithrin ymdeimlad uchel o alwad i’r Weinidogaeth Sanctaidd. Mae’r amcanion hyn i’w gweld o hyd yng ngwaith y capel heddiw, sy’n canolbwyntio’n fawr ar ddatblygu’r bywyd ysbrydol, sy’n fan cychwyn ar gyfer datblygu ymdeimlad o gymdeithas. Mae’r capel yn dal yn lle gwerthfawr ar gyfer meithrin myfyrwyr a alwyd i’r weinidogaeth ac o’r herwydd caiff sawl galwad bob blwyddyn.

O’r cychwyn bu’r Gymdeithas Gatholig (a ddaeth i gael ei galw’n ddiweddarach yn Gymdeithas Dewi Sant) yn canolbwyntio ar ddyfnhau a rhannu’r bywyd ysbrydol. Roedd y prif gyfarfodydd (a gynhelid ar nosweithiau Sul) yn cynnwys trafodaethau ar bynciau o bob math. Er enghraifft, yn y blynyddoedd cynnar cafwyd papurau a thrafodaethau ar y Litwrgi Delfrydol, Bywyd Personol yr Offeiriad, Diwygiadau Seremonïol ac Eglwysig; y cyfan yn arwydd o ba mor ddifrifol yr ystyriwyd y bywyd crefyddol. Canolbwyntiai’r gymdeithas ar fyw a dyfnhau’r bywyd ysbrydol. Roedd staff a myfyrwyr yn chwarae rhan amlwg yn hyn trwy gymryd rhan mewn trafodaethau, cyflwyno papurau a chefnogi’r gymdeithas yn ariannol.

Am flynyddoedd lawer Cymdeithas Dewi Sant oedd cymdeithas Eingl-Gatholig y brifysgol, ac fe gadwyd cysylltiadau agos gyda’r capel trwy ei hofferennau wythnosol a’i huchel offerennau achlysurol trwy gydol y flwyddyn. Un o gefnogwyr amlycaf a mwyaf brwd y gymdeithas oedd y Parch W H Harris. Defnyddir cwpan a phlât a roddwyd er cof am y Tad Harris yn y capel.

Un o draddodiadau cynnar eraill y gymdeithas oedd y bererindod flynyddol i Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi. Roedd hon eisoes yn rhan annatod o’r gymdeithas yn 1928.  Nid oedd yr ymdrechion i gadw’r bererindod yn achlysur difrifol ac ysbrydol wastad yn hawdd, gan fod llawer yn chwilio am unrhyw esgus i gael diwrnod o Lambed a chyfle i ymweld â’r gwahanol dafarnau yn Nhŷ Ddewi, yn hytrach na phererindod ysbrydol. (Mae’r bererindod flynyddol yn parhau hyd y dydd heddiw ac mae’n cynnwys cymysgedd o’r ddwy elfen, yn ddigon tebyg mae’n siŵr i’r sefyllfa bryd hynny!)

Rheol Bywyd

Apeliaf i chwi, frodyr a chwiorydd, trwy drugaredd Duw, i gyflwyno eich cyrff yn offrwm byw, yn sanctaidd a derbyniol i Dduw, sef eich addoliad ysbrydol. Peidiwch cael eich clymu i’r byd hwn, a thrawsnewidiwch eich hunain trwy adfywio eich meddyliau, fel y gallwch ddirnad ewyllys Duw – yr hyn sy’n dda a derbyniol a pherffaith.  Peidiwch meddwl yn uwch o’ch hunain nac y dylech, ond meddyliwch gyda barn ddifrifol, pob un yn unol â’r mesur o ffydd a briodolwyd gan Dduw. Oherwydd fel mewn un corff y mae gennym sawl aelod ac nad oes gan bob aelod yr un swyddogaeth, felly hefyd yr ydym ninnau, sydd lawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn unigol rydym yn aelodau o’n gilydd.  Mae gennym ddoniau sy’n wahanol yn ôl y gras a roddwyd inni: proffwydoliaeth yn gymesur â ffydd; gweinidogaeth, wrth weinidogaethu; yr athro, wrth addysgu; y cymhellwr,  wrth gymell; y rhoddwr, mewn haelioni; yr arweinydd, mewn diwydrwydd; y tosturiol, mewn sirioldeb.

Gadewch i gariad fod yn ddiffuant; casewch yr hyn sydd ddrwg, cydiwch yn yr hyn sydd dda; cerwch eich gilydd gydag anwyldeb y naill at y llall; rhagorwch ar eich gilydd wrth ddangos anrhydedd.  Peidiwch bod yn brin o eiddgarwch, byddwch selog eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith, byddwch amyneddgar mewn dioddefaint, dyfalbarhewch mewn gweddi. Cyfrannwch at anghenion y tlawd; rhoddwch letygarwch i ddieithriaid.

Bendithiwch y sawl a’ch erlidia; bendithiwch ac na felltithiwch hwy. Llawenhewch gyda’r sawl sy’n llawenhau, wylwch gyda’r sawl sy’n wylo. Byddwch mewn harmoni â’ch gilydd; na fyddwch falch, cymdeithaswch yn hytrach â’r  gostyngedig; peidiwch honni eich bod yn ddoethach nac yr ydych. Peidiwch ad-dalu unrhyw un ddrygioni am ddrygioni, a chwiliwch am yr hyn sydd anrhydeddus yng ngolwg pawb.

Os oes modd, i’r graddau y mae hynny’n dibynnu arnoch chi, ceisiwch fyw’n heddychlon gyda phawb. A chwithau’n garedig, peidiwch byth â dial arnoch chi’ch hun. Os yw eich gelynion yn newynnog, bwydwch nhw; os ydynt yn sychedig, rhowch iddynt rywbeth i’w yfed.

Peidiwch goresgyn trwy ddrygioni, yn hytrach trechwch ddrygioni gyda daioni.

Addaswyd o lythyr Sant Paul i’r Rhufeiniaid Pennod 12

Datganiad Cenhadaeth

Mae Capel y Brifysgol yn ceisio bod yn wir dyst i Grist, ei Eglwys a’i Efengyl, yn amgylchedd y brifysgol. Ceisia wasanaethu holl aelodau’r brifysgol gyda’r urddas a’r trugaredd sy’n ofynnol gan yr Efengyl, a bod yn ffynhonnell undod a ffocws ar gyfer y campws cyfan. Mae’n lle o weddi ac o adfywiad ysbrydol a chynigia le ble y gall holl aelodau’r gymuned ganfod lloches a heddwch.
 
‘Frodyr a chwiorydd byddwch lawen, a chadwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch ynof i.’
Dewi Sant

Gweddi Cymdeithas Dewi Sant

Gweddiwn o Arglwydd y byddi’n arwain a llywodraethu gwaith Prifysgol Dewi Sant.
Arllwysa dy ysbryd ar y sawl sy’n addysgu yma.
Caniatâ i fyfyrwyr ddod o hyd i gartref yma a sancteiddiwyd gan awydd am Dduw a chariad at ddysg; y deuant i’th wasanaethu di gyda’u holl galonnau, gyda’u heneidiau, a chyda’u holl feddyliau.
Gweddiwn hefyd dros gyn fyfyrwyr, y caiff eu doniau a’u talentau eu galluogi yn eu hamrywiol alwedigaethau i’th wasanaethu di’n gywir a diwyd, er gogoniant dy enw, ac er lles dy Eglwys sanctaidd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.