Hanes y Capel

Cysegrwyd y Capel gan yr Esgob Jenkinson o Dŷ Ddewi ar 23 Awst 1827, bron chwe mis ers i’r myfyrwyr cyntaf gael eu derbyn i Goleg Dewi Sant. Cynhaliwyd gwasanaethau dyddiol o’r cychwyn, yr oedd yr holl staff a myfyrwyr yn eu mynychu. Roeddent yn cynnwys ffurfiau byrrach o Weddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos a gwasanaethau llawn Gweddi Foreol a Hwyrol ar y Sul. Dathlwyd Cymun Bendigaid unwaith y mis, sef y drefn arferol yn y cyfnod hwn. Roedd tua hanner y gwasanaethau yn Saesneg a hanner yn Gymraeg. Cafodd y paentiad sydd i’w weld erbyn hyn yn Ale’r Ymwelwyr, copi o’r Teulu Bendigaid gan Correggio, y mae’r gwreiddiol ohono yn Parma, ei osod yn wreiddiol y tu cefn i’r allor. Trwy gydol esgobaeth yr Esgob Jenkinson, ac am gyfnod helaeth o deyrnasiad ei olynydd, Connop Thirlwall, y Capel oedd y lleoliad arferol ar gyfer ordeiniadau yn esgobaeth Tŷ Ddewi. Y Capel oedd un o’r addoldai Anglicanaidd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dathliad wythnosol o’r Cymun Bendigaid, a hynny yn yr 1870au.

Er mwyn dathlu jiwbilî aur Coleg Dewi Sant yn 1877 penderfynwyd ail-adeiladu’r Capel oedd erbyn hynny’n cael ei ystyried yn annigonol. Cynlluniwyd y Capel newydd gan T G Jackson a daeth y gwaith pren ar gyfer y seddi bwaog o’r Coleg Newydd, Rhydychen. Nid oedd ei gynlluniau’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pulpud ond roedd un wedi cael ei osod erbyn 1901. Gwaith Jackson yw’r nenfwd paentiedig ond ni chafodd y sgrin y bwriedid ei rhoi rhwng prif gorff y Capel ac Ale’r Ymwelwyr fyth ei gosod. Cysegrwyd y Capel newydd ar 24 Mehefin 1880, a’r pregethwr yn y seremoni hon oedd yr Esgob Ollivant o Landaf, a oedd, fel Prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, wedi pregethu adeg cysegru’r Capel gwreiddiol 53 mlynedd ynghynt.

Yn 1879 gorchmynnodd yr Esgob Basil Jones o Dŷ Ddewi fod rhaid cael gwared â’r ffurfiau byrrach o Weddi Foreol a Hwyrol a ddefnyddid ar ddyddiau’r wythnos a defnyddio gwasanaethau llawn bob dydd, i’w cymryd yn eu tro gan aelodau’r staff mewn urddau eglwysig, ac y dylid lleihau nifer y gwasanaethau Cymraeg. Yn yr 1880au cynhelid Gweddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos am 8am a 5.30pm, ond ar Ddydd Gwener yn unig y byddai’r Gosber yn Gymraeg. Gwasanaethau’r Sul oedd y Cymun Bendigaid am 8.30am, Mattins Corawl am 11am, gyda Chymundeb ar Gân ar Sul cyntaf y mis, a’r Gosber am 7pm. Cyflwynwyd anthemau rheolaidd ar y Sul gan y cantor newydd, Edmund Tyrrell Green, yn 1895. Sefydlodd Green hefyd Urdd Dewi Sant ar gyfer datblygiad ysbrydol staff a myfyrwyr.

Yn 1906 comisiynwyd W D Caröe i gynllunio Capel newydd ond ni chafodd y cynllun fyth ei weithredu. Fodd bynnag, cafodd yr organ ei hadnewyddu, am gost o £200, yn 1908. Cyflwynwyd dathliad o’r Cymun Bendigaid yn ystod yr wythnos, ar Ddydd Mercher, yn 1914 a dathliad dyddiol yn 1925. Gwisgwyd urddau eglwysig ewcharistaidd am y tro cyntaf yn 1933 ac fe’u gwnaed yn orfodol mewn Cymundebau ar Gân, ond nid mewn dathliadau geiriol, yn 1934. Yn 1935 newidiwyd patrwm gwasanaethau’r Sul i Gymun Bendigaid am 8am, Mattins Corawl am 10am, Pregeth am 10.30am, Cymundeb ar Gân am 11am a’r Gosber am 6.30pm. Roedd disgwyl i staff a myfyrwyr fynychu naill ai Mattins a Phregeth neu Bregeth a Chymundeb ar Gân ar foreau Sul.

Dadorchuddiwyd carreg goffa i’r rhyfel, gan W D Caröe, yn 1922. Cyflwynwyd pulpud newydd, oedd hefyd wedi’i gynllunio gan Caröe, yn 1928 ac fe gysegrwyd reredos newydd yn 1934. Gwnaed gwaith atgyweirio i’r organ hefyd yn 1934 ac yn 1936 rhoddwyd blaen cerfiedig newydd i fwrdd yr allor. Cyfanswm cost yr holl welliannau hyn oedd bron i £1400. Er hynny, roedd y Capel yn dal i gael ei ystyried yn annigonol ar gyfer anghenion y coleg ac awgrymwyd Capel newydd gan y Prifathro Archdall yn 1939. Cyfrannodd yr Esgob Prosser o Dŷ Ddewi £1000 tuag at y Capel newydd yn 1943 ac fe gomisiynwyd Ben Roderick o Aberdâr i baratoi cynlluniau ar ei gyfer, neuadd ddiwinyddol a dau adeilad proffeswrol newydd, a fyddai wedi llenwi’r llecyn agored rhwng Adeiladau Dewi Sant a Chaergaint. Roedd Capel newydd yn dal yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd yn 1948 ond ni ddaeth dim fyth ohonynt.

Hyd at 1975 pan ymddeolodd y Prifathro olaf mewn urddau eglwysig, J R Lloyd Thomas, roedd y Prifathro yn gyfrifol am y Capel a’i wasanaethau. Wedi hynny penodwyd caplan llawn-amser. Yn 2005-6 gwnaed cryn waith ail-drefnu ar y Capel i’w wneud yn lleoliad mwy addas ar gyfer litwrgi ewcharistaidd newydd yr Eglwys yng Nghymru. Tynnwyd y pulpud allan ac fe osodwyd bwrdd allor a darllenfa newydd. Ar yr un pryd tynnwyd allan y rhan fwyaf o’r seddi yn Ale’r Ymwelwyr ac yn eu lle gosodwyd cadeiriau y gellid eu defnyddio mewn ffordd fwy hyblyg ar gyfer gwasanaethau llai neu gyfarfodydd o gynulleidfa’r Capel. Mae’r Capel yn dal i gynnal y cylch dyddiol o wasanaethau yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor, patrwm fu’n ddi-dor ers 1827, a Chymundeb ar Gân bob Dydd Sul a’r prif wyliau trwy gydol y flwyddyn.