Ymdoddiad

Mae Ymdoddiad yn ddathliad o’r Cymun trwy ddefnyddio gwahanol gyfryngau a band cerddorol byw.  Mae’n fwriadol wahanol yn ei arddull a chymeriad i’r dathliad o’r Cymun yng Nghapel y Brifysgol am 11am ar foreau Sul.

Mae’r dathliad yn llawer llai ffurfiol ac yn fwy “carismatig” ei arddull, a dim ond yr offeiriad sy’n arwain y dathlu sy’n gwisgo unrhyw urddwisgoedd neu ynau. Caiff geiriau emynau a gweddïau eu taflunio ar sgriniau ac mae lluniau hefyd yn cael eu dangos trwy gydol y gwasanaeth. Darperir y gerddoriaeth gan fand addoli byw.

Fel gyda holl wasanaethau’r Capel, mae Ymdoddiad yn agored i bawb, ar ac oddi ar y Campws. Os hoffech gymryd rhan trwy chwarae yn y band neu arwain y canu ar gyfer y gwasanaeth hwn cysylltwch â Chaplan y Brifysgol.

Y nod yn y pendraw yw cynnal gwasanaeth Ymdoddiad bob mis. Wrth inni weithio tuag at y nod honno bwriadwn gynnal 5 ym Mlwyddyn Academaidd Hydref 2008-Mehefin 2009.