Cyfleusterau Ysgol
Mae ardal stiwdio ar gael i bob myfyriwr Celfyddyd Gain, yn ogystal â stiwdios â chyfarpar llawn ar gyfer clai-cerameg, pren, peintio, plastr a gweithdai cerflunio. Mae amrywiaeth eang o offer ar gael ymhob gweithdy, a bydd myfyrwyr yn cael mynediad i ddeunyddiau o ansawdd proffesiynol.
Darperir ar gyfer agweddau digidol Celfyddyd Gain o fewn Labordy’r Cyfryngau, gan roi cyfle i fyfyrwyr wneud gwaith celf 2D, 3D a delweddau symudol. Mae cyfleusterau delweddu digidol modern yn yr ystafelloedd, a chyfleusterau argraffu lliw, yn cynnwys: argraffwyr laser A4 ac argraffwyr o ansawdd amgueddfa 24” a 44” o led.
Mae’r cyfleusterau Apple Mac yn y labordy, gan gynnwys rhai o’r peiriannau i-Mac craidd dwbl diweddaraf, yn ogystal â pheiriannau tŵr Mac Pro, yn galluogi myfyrwyr i gael profiadau o safon diwydiant. Mae meddalwedd o safon diwydiant wedi’i gosod ar bob peiriant a gallant recordio ffilm a deunydd cyfryngol ar CD-Rs a DVD-Rs.
Mae peiriannau tŵr Apple Mac Pro â dau fonitor ac yn rhedeg Final Cut Pro ar gyfer golygu deunydd fideo o amryw o ffynonellau gan gynnwys clirlun.
Ceir ystod eang o gyfleusterau ar gyfer creu ffilmiau yn cynnwys:
- Camerâu fideo Sony a Panasonic - SD a chlirlun
- Meicroffonau i’w defnyddio yn y stiwdio ac ar leoliadau
- Traciau doli
- Fig Rigs
- Steadicam
- Braich camera
- Goleuadau
- Sgriniau gwyrdd yn y stiwdio a rhai cludadwy
- Recordwyr sain cyflwr solet
- Recordwyr DVD
Gellir golygu ffilmiau gyda Final Cut Studio. Mae Final Cut Studio yn cynnwys Final Cut Pro i olygu fideo a DVD Studio Pro ar gyfer DVDs proffesiynol, yn ogystal â meddalwedd ôl-gynhyrchu arall. Defnyddir Final Cut yn helaeth yn y diwydiant ffilm a theledu gan gwmnïau megis 20th Century Fox a’r BBC.
Os hoffech wybod mwy am y system olygu Final Cut a ddefnyddir gennym ni, defnyddiwch y ddolen isod i glywed am brofiadau’r Brodyr Cohen, 20th Century Fox a’r BBC.
http://www.apple.com/finalcutpro/
Mae’r stiwdio recordio a golygu a adnewyddwyd yn ddiweddar yn defnyddio desg gymysgu aml-drac ddigidol, allweddell ddigidol 88 allwedd effaith morthwyl, a meicroffonau o safon diwydiant i ddarparu profiad realistig.
Mae meddalwedd ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau’n cynnwys:
- Flash
- Dreamweaver
- Maya
Mae meddalwedd arall a addysgir gennym yn cynnwys:
- Photoshop
- Illustrator
- Pro-Tools
Hefyd mae Microsoft Office wedi’i osod ar y peiriannau Mac er mwyn cydweddu â gwaith ysgrifenedig y myfyrwyr a gwblheir ar gyfrifiaduron eraill. Yn yr ardaloedd addysgu ceir mynediad diwifr i ddefnyddwyr gliniaduron a ffonau deallus.
Mae cymorth taflunio ar sgrin fawr ar gael i ddarlithwyr allu arddangos meddalwedd a damcaniaethau’n ymarferol.
Diweddarir yr holl offer yn aml er mwyn darparu’r profiad mwyaf cynhwysfawr posibl ar ddull diwydiant ar gyfer y myfyrwyr. Mae’r arddangosydd cyfryngau ar gael i gynorthwyo â phrosiectau ac i roi cyngor ar sail ei brofiadau a diwydiant.
Cyfleusterau Addysgu Ychwanegol
Mae gan yr Ysgol ystod o gyfleusterau ar gyfer gwylio deunydd digidol, yn eu plith sgrin LCD fawr â chlirlun gyda chwaraeydd Blu-Ray a pheiriant gwylio’r cyfryngau Apple TV sy’n ddiwifr ac â chlirlun.
Mae’r addysgu yn digwydd mewn amryw o leoliadau yn cynnwys ardaloedd stiwdio, theatrau darlithio amlgyfrwng, ystafelloedd seminar a gweithdai. Mae ymweliadau mynych ag orielau celf, gwyliau, a digwyddiadau'r celfyddydau.

