Cyflwyniad
Y mae’n bleser gennyf gyflwyno Cynllun AUR - Anelu’n Uwch at Ragoriaeth - sef gwaith Cyfadran Gysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer 2011-2012.
Y mae’r cynllun arloesol hwn yn rhan greiddiol o ymateb y Brifysgol i agenda Trawsnewid Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cynnig cyfleon dwyieithog i fyfyrwyr ysgolion uwchradd ar draws De Cymru i astudio ar lefel prifysgol.
Y mae AUR yn cynnig rhaglen o fodylau perthnasol a fydd yn atgyfnerthu gwaith ysgolion uwchradd wrth ddatblygu eu myfyrwyr yn academaidd ac yn gymdeithasol.
Wrth gynllunio i’r dyfodol, bwriad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw cynnig amrywiaeth o brofiadau addysgol perthnasol i fyfyrwyr Blynyddoedd 12/13 a fydd, gobeithio, yn eu hannog i barhau â’u hastudiaethau mewn prifysgol o’u dewis yn y dyfodol.
Y mae’r cynllun cyffrous hwn, sydd wedi ei anelu yn y lle cyntaf at ysgolion uwchradd De Orllewin Cymru ac ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg De Cymru, yn dangos ymroddiad y sefydliad i ehangu mynediad i addysg uwch yn ogystal ag addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Yn ystod y dwy flynedd diwethaf rydym wedi dathlu llwyddiant dros 1500 o fyfyrwyr VIed dosbarth mewn cydweithrediad gyda 26 ysgol.
Mae’r Gyfadran Gysylltiol yn brosiect arloesol.
Mae’r cyfleon yn ddi-ben-draw.
Mae’r buddion i fyfyrwyr yn sylweddol.
Mawr obeithiwn y bydd eich sefydliad yn cefnogi’r prosiect unigryw a blaengar hwn.
Felly, os nad ydych yn rhan o’r cynllun yn barod, cysylltwch â ni a gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio ar y cyfle cyffrous hwn.
Dr Medwin Hughes DPhil DPS FRSA Is-Ganghellor
Dyma farn rhai o’r myfyrywr a fu ar gwrs llynedd:
“Roedd y profiad yn heriol, ond roedd y wobr yn werth yr ymdrech.”

“Dysgais sgiliau academaidd hanfodol ac mae’r gwaith wedi cryfhau fy nghais UCAS heb os.”
“Roedd y darlithoedd yn ddiddorol ac yn ysbrydoledig.”
“Wrth ddysgu am y naid rhwng ysgol a phrifysgol, dydw id dim yn poeni rhagor!”
neu mewn tri gair gan un myfyriwr arall:
“Popeth yn wych!”
Llun: Seremoni wobrwyo Ysgol Y Preseli 2011

