Dr Mererid Hopwood

Mererid Hopwood

Manylion ar sut i gysylltu

Cyfadran Gysylltiol
Ffôn: 01267 676899 (6899)
E-bost: m.hopwood@ydrindoddewisant.ac.uk

Campws

Campws Caerfyrddin

Teitl y Swydd

Uwch Ddarlithydd

Rôl yn y Brifysgol

Dysgu cyrsiau Lefel 4 i ddisgyblion 6ed Dosbarth.

Cefndir

  • Gradd gyntaf mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth
  • Doethuriaeth o Goleg y Brifysgol Llundain.
  • Cyfnod fel tiwtor yn rhai o golegau Prifysgol Llundain
  • Darlithydd yn Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Abertawe.  
  • Pennaeth swyddfa’r Gorllewin a Chanolbarth i Gyngor y Celfyddydau
  • Athrawes Sbaeneg, Ysgol Gyfun Gymraeg
  • Enillydd Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Bardd Plant Cymru 2005
  • Cymrawd yr Academi a Choleg Prifysgol y Drindod
  • Aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin a Bwrdd Gorsedd y Beirdd, ac yn gadeirydd Cell Cymdeithas y Cymod, Caerfyrddin.

Yn fy amser sbâr rwy’n mwynhau hyfforddi plant Aelwyd Myrddin a’r Gobeithlu yn y dref. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar gyhoeddi  llawlyfr a gwefan ar y cynganeddion i blant, a hefyd ar lunio llyfr gramadeg Sbaeneg yn y Gymraeg ar gyfer myfyrwyr.  Mae gen i ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth ac iaith ac yn edrych ymlaen at gyfle i drosi rhai o gerddi mwyaf adnabyddus y canon ewropeaidd i’r Gymraeg er mwyn eu cyflwyno i fyfyrwyr cyrsiau’r Gyfadran.

Cyhoeddiadau

Llyfrau i oedolion - yn cynnwys:

Hopwood, M. (1994 ) Johann Peter Hebel and the Rhetoric of Orality, Stuttgart: Heinz

Hopwood, M. (2004) Singing in Chains – Welsh Strict Metre Verse, Llandysul; Gwasg Gomer

Hopwood, M. (2008) O Ran, Llandysul: Gwasg Gomer

Llyfrau i Blant – yn cynnwys:

Hopwood, M. (2005) Yr Ynys Hud, Llandysul: Gwasg Gomer
Hopwood, M. (2006) Y Tandem Hud, Pwllheli: Gwasg Gwynedd
Hopwood, M. (2007) Ar Bwys,  Llandysul: Gwasg Gomer
Hopwood, M. (2008) Cerddi’r Cof, Caerdydd: Gwasg y Dref Wen
Hopwood, M. (2009) Dwdl-mi-do, Pwllheli: Gwasg Gwynedd

Erthyglau – yn cynnwys

Hopwood, M. (1996) ‘zur Nachahmung reizen’: the Lessons of the Early Nineteenth-century Women’s Calendars.  German Life and Letters,  XLIV No. 3,  31- 323

Hopwood, M. (1995) Von Pol zu Pol, Fremderfahrung im Werk Rose Auslanders. In Anne Fuchs & Theo Harden (Gol.) Reisen im Diskurs, (tt. 602- 613). Heidelberg:

Hopwood, M. (2002) ‘Llenwi’r Bylchau’. Transactions of the Honourable  Society of the Cymmrodorion, 9, 57-72

Cyfraniadau i Barddas, Taliesin, Tu Chwith.