Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Y Cwricwlwm

Mae’r Brifysgol wedi dilysu ystod o fodylau wedi eu hachredu y gallai eu darparu mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd. Ei dymuniad yw parhau i deilwrio’r ddarpariaeth fel ei bod yn ateb anghenion ysgolion unigol.

Mae’r fwydlen yn cynnwys modwl generig sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol myfyrwyr wrth iddynt baratoi eu hunain ar gyfer addysg uwch. Mae’r modylau hyn yn rhoi syniad i’r myfyrwyr o’r math o brofiadau dysgu y gallant eu disgwyl mewn prifysgol yn ogystal ag atgyfnerthu a chryfhau eu sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys modylau mwy arbenigol sy’n fodd o gryfhau dealltwriaeth y myfyrwyr o agweddau penodol ar bynciau a astudir ganddynt yn yr ysgol uwchradd.

Nodir isod ddewislen enghreifftiol o fodylau y gallai’r Brifysgol ei chynnig yn ystod 2011/12. Gellid ychwanegu modylau eraill at y fwydlen hon yn unol â dyheadau ysgolion unigol neu, yn wir, glystyrau o ysgolion.

Myfyrwyr

Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr
Lefel 4 – 10 credyd

Cwrs sy’n cynnig hyfforddiant ar sgiliau ymchwil, llunio llyfryddiaeth, ysgrifennu traethawd mewn arddull academaidd, rheoli amser a.y.b.

Arweiniad i Feddwl a Dysgu Effeithiol
Lefel 4 – 10 Credyd

Cwrs sy’n galluogi myfyrwyr i ddeall eu hymddygiad eu hunain wrth ddysgu er mwyn datblygu cymhelliad a hyder wrth astudio yn y dyfodol.

Cymraeg Galwedigaethol 1 (Gwrando a Siarad)
Lefel 4 – 10 credyd

Cwrs sy’n galluogi myfyrwyr i weithredu ar lafar drwy gyfrwng y Gymraeg at safon dderbyniol mewn sefyllfaoedd amrywiol sy’n berthnasol i’w meysydd galwedigaethol.

Cymraeg Galwedigaethol 1 (Darllen ac Ysgrifennu)
Lefel 4 – 10 credyd

Cwrs sy’n galluogi myfyrwyr i weithredu ar bapur drwy gyfrwng y Gymraeg at safon dderbyniol mewn sefyllfaoedd amrywiol sy’n berthnasol i’w meysydd galwedigaethol.

Meddwl am Gymru Ewrop a’r Byd
Lefel 4 – 10 credyd

Yn osgystal â rhai o’r prif sgiliau academaidd, mae’r cwrs hwn yn cyflwyno darlithoedd ffurfiol sy’n cynnig ystod eang o bynciau yn y cyd-destun Ewropeiadd a thu hwnt, e.e. gor-olwg o ddatblygiad y teulu o ieithoedd Indo-Ewropaidd,  Datblygiad Meddygaeth a Meddyginiaeth, Cyfundrefnau Cyfreithiol Ewrop a.y.b.

Athroniaeth (cyfrwng Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Lefel 4 – 10 credyd

Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â themau a chysyniadau creiddiol mewn Athroniaeth. Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafodaethau a safbwyntiau allweddol mewn Athroniaeth. Cyflwyno myfyrwyr i’r arfer o ddadlau a thrafodaethau athronyddol.

MyfyrwyrTsieinëeg
Lefel 4 – 10 credyd

Cyflwyno myfyrwyr i’r iaith Tsieinëeg a gwybodaeth ddiwylliannol gysylltiedig. Galluogi myfyrwyr i ddefnyddio gramadeg a geirfa sylfaenol Tsieinëeg yn hyderus. Datblygu sgiliau sylfaenol o ran siarad, gwrando, ysgrifennu a darllen Tsieinëeg.

O Homer i Harry Potter (cwrs dwyieithog)
Lefel 4 – 10 credyd

Cyflwyniad i fyfyrwyr i rai o brif syniadau diwylliannol, llenyddol ac athronyddol Ewrop o’r cyfnod Clasurol/Hynafol i’r cyfnod Modern.

Dilyn dy Reddf
Lefel 4 – 10 credyd

Galluogi myfyrwyr i gael dealltwriaeth o arddulliau a thechnegau cyfansoddi a dablygu sgiliau megis dehongli, dadansoddi, cyfansoddi ac annog newydd-deb.

Gwaith Ensemble
Lefel 4 – 10 credyd

Arweiniad i fyfyrwyr ynglŷn â sut i berfformio fel rhan o ensemble offerynol/lleisiol.

Rhagarweiniad at Addysgu Sgiliau Beicio Mynydd
Lefel 4 – 10 credyd

Cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau a gwybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn addysgu ystod o sgiliau beicio mynydd.

Rhagarweiniad at Athroniaeth 2 (cyfrwng Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Lefel 4 – 10 credyd

Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â themau a chysyniadau creiddiol mewn Athroniaeth. Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafodaethau a safbwyntiau allweddol mewn Athroniaeth. Cyflwyno myfyrwyr i’r arfer o ddadlau a thrafodaethau athronyddol.

Myfyrwyr

Tŵr Babel
Lefel 4 – 10 credyd

Cyflwyniad i fyfyrwyr i grefft cyfieithu llenyddol.

Cymry’r Byd (diweddariad ar modwl ‘Meddwl am Gymru, Ewrop a’r Byd uchod)
Lefel 4 – 10 credyd

Yn osgystal â rhai o’r prif sgiliau academaidd, mae’r cwrs hwn yn cyflwyno darlithoedd ffurfiol sy’n cynnig ystod eang o bynciau yn y cyd-destun Ewropeiadd a thu hwnt, e.e. gor-olwg o ddatblygiad y teulu o ieithoedd Indo-Ewropaidd, Datblygiad Meddygaeth a Meddyginiaeth, Cyfundrefnau Cyfreithiol Ewrop a.y.b.