Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan allweddol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn y sector addysg uwch. Mae’n cynnig rhaglenni gradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog mewn ystod cynyddol o feysydd academaidd a galwedigaethol gan ddarparu llwybrau dilyniant addas ar gyfer y myfyrwyr hynny a fydd wedi astudio’u cyrsiau Uwch neu gyrsiau perthnasol eraill trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhlith y meysydd a gynigir yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn 2010/11 y mae:

  • addysg blynyddoedd cynnar
  • gwaith ieuenctid a chymuned 
  • addysg grefyddol 
  • addysg gynradd 
  • astudiaethau crefydd 
  • astudiaethau addysg 
  • addysg gorfforol 
  • celfyddyd gain 
  • cerdd a’r cyfryngau 
  • cerddoriaeth broffesiynol 
  • y cyfryngau creadigol 
  • y celfyddydau perfformio 
  • yr actor a’r celfyddydau