Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Dulliau Addysgu

Mae’r dulliau addysgu yn rhai hyblyg ac wedi eu teilwrio at anghenion ysgolion unigol. Fel y nodwyd eisoes, gellir cynnig y ddarpariaeth yn yr ysgol uwchradd, ar gampws y Brifysgol trwy gyfrwng ‘Prifysgol Ddwys’, trwy’r rhwydwaith fidio neu trwy gyfuniad o’r rhain. Hyderir y bydd llawer o’r deunydd dysgu ar gael i’r myfyrwyr yn electroniadd. Dymuniad y Brifysgol, serch hynny, yw y caiff ei holl Fyfyrwyr Cysylltiol brofiad campws yng Nghaerfyrddin neu Lambed yn ystod eu cyfnod ym Mlynyddoedd 12/13.