Gweithdrefnau Sicrhau Ansawdd
Mae sicrhau ansawdd yn gwbl greiddiol i’r holl ddarpariaeth a gysylltir â’r Gyfadran Gysylltiol. Mae’r Brifysgol yn ymwybodol iawn o ddisgwyliadau uchel yr ysgolion a gwnaiff ei gorau glas bob amser i sicrhau y darperir addysg o’r radd flaenaf i’w Myfyrwyr Cysylltiol. Mae holl diwtoriaid y Brifysgol a fydd yn gweithio o fewn y Gyfadran Gysylltiol wedi dilyn proses gofrestru gyda’r Biwrô Troseddion Cofnodol.
Caiff y cynllun ei arwain a’i reoli o ddydd i ddydd gan Gyfarwyddydd y Gyfadran Gysylltiol a’i weinyddu gan dîm o staff ar gampws Caerfyrddin. Mae’r Cyfarwyddydd yn atebol i aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol.
Mae’r ddarpariaeth yn dilyn yn agos y gweithdrefnau sicrhau ansawdd a ymgorfforir yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol. Fel rhan o’r prosesau sicrhau ansawdd, cynhelir Adolygiad Blynyddol o’r ddarpariaeth a bydd cyfle i gynrychiolwyr athrawon a myfyrwyr o’r ysgolion fynychu’r cyfarfod i leisio’u barn arni. Mae gan y Gyfadran Fwrdd Rheoli hefyd a’i aelodaeth yn drawdoriad o barthneriaid. Mae cyfle i fyfyrwyr fynegi eu barn mewn holiaduron a ddosberthir ar ddiwedd pob modwl a addysgir. Penodwyd Arholwr Allanol ar gyfer y cynllun ac mae disgwyl i’r arholwr adrodd drwy gydol y flwyddyn i’r byrddau arholi ar ansawdd a safonau’r ddarpariaeth ac ar gyraeddiadau’r myfyrwyr.

