Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Partneriaeth Ehangach â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Trwy waith Uned Farchnata’r Brifysgol, mae sawl ysgol uwchradd eisoes wedi sefydlu cytundeb cyswllt ffurfiol â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dymuniad y Brifysgol fyddai gweld yr holl ysgolion a fyddai’n cofrestru eu myfyrwyr gyda’r Gyfadran Gysylltiol yn llofnodi’r cytundeb hwn. I gael rhagor o  fanylion cysylltwch ag Eleri Beynon (Swyddog Marchnata), rhif ffôn: 01267-676790, cyfeiriad e-bost: e.beynon@ydds.ac.uk

Wrth sefydlu cytundeb o’r fath, mae’r Brifysgol yn ymrwymo’i hun i:

  • sefydlu partneriaeth weithredol gyda’r ysgol uwchradd, sy’n cynnwys cefnogaeth academaidd - megis ymweliadau â’r ysgol uwchradd gan diwtoriaid – ac allgyrsiol megis y defnydd o gyfleusterau neu adnoddau’r Brifysgol ar gyfraddau ffafriol neu’n rhad ac am ddim yn ôl yr hyn sy’n addas, e.e. ystafelloedd dysgu, llety, theatr, y ganolfan gynadledda a’r ganolfan chwaraeon;
  • gyfrannu at raglen yrfaoedd/addysg uwch yr ysgol uwchradd drwy drefnu bod ei staff yn ymweld â’r ysgol uwchradd i drafod pynciau megis llenwi ffurflen UCAS, dewis prifysgol/coleg neu gwrs, ariannu addysg uwch, a chyfrannu at raglen ffug-gyfweliadau’r ysgol uwchradd; 
  • Myfyrwyrgydweithio gyda’r ysgol uwchradd i sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes yn y gymuned; 
  • drefnu ysgol breswyl a/neu gyrsiau undydd yn y Brifysgol yn seiliedig ar bynciau Lefel U, U/G megis y Gymraeg, Astudiaethau Crefydd, y Ddrama, Saesneg, Astudiaethau Chwaraeon, Cerddoriaeth, y Cyfryngau ayyb gan sicrhau cyfleoedd i grwpiau o fyfyrwyr yr ysgol i’w mynychu; 
  • drefnu rhaglen o weithgareddau amrywiol yn rhan o’i gwaith ehangu mynediad a fydd yn dechrau yn mlynyddoedd 7 neu 8 ac yn datblygu bob blwyddyn;
  • addo cyfweld pob ymgeisydd o’r ysgol uwchradd ac i gynnig lle ar sail yr unigolyn ac argymhelliad yr ysgol uwchradd, h.y. ystyrir nifer o ffactorau yn ogystal â chyrhaeddiad academaidd yr unigolyn.

 Yng nghyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg, mae gan y Brifysgol ddiddordeb mawr hefyd i gydweithio ag ysgolion i hwyluso darpariaeth Gymraeg lle bo ysgolion unigol yn profi anawsterau i gynnal grwpiau Cymraeg bychain eu maint mewn pynciau penodol. Mae hefyd yn gallu cyfrannu at addysgu rhai o’r pynciau hyn mewn canolfannau ar draws Cymru.