Y Gyfadran Gysylltiol
Datblygodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin y cysyniad o’r Gyfadran Gysylltiol, yn gweithio mewn partneriaeth â thros 30 o ysgolion uwchradd ar draws Gorllewin a De Cymru, yn ystod Tymor yr Hydref 2008.
Yn dilyn trafodaethau manwl gyda Phrifysgol Cymru Llambed, sefydlwyd prifysgol newydd yn 2010 yn dwyn yn enw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r Brifysgol wedi ei ymrwymo’n llwyr i weledigaeth a gwaith y Gyfadran Gysylltiol a bydd yn parhau i anelu at gyrraedd ei amcanion yn y maes datblygu allweddol hwn.
Mae ‘ehangu mynediad’ yn thema ganolog o waith a bywyd ein Prifysgol newydd ac yn adeiladu ar waith mae’r ddau sefydliad blaenorol wedi bod yn cyflawni ers blynyddoedd lawer o weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion uwchradd De a Gorllewin Cymru er mwyn datblygu trefniadau cytundeb sy’n cefnogi dilyniant o ysgolion uwchradd i addysg uwch.
Gyda sefydlu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Ne Orllewin Cymru, gwelir cyfle o’r newydd i sefydlu rhwydweithiau dysgu penodol mewn perthynas ag ysgolion a cholegau Cymru. Nod cynnar i’r Brifysgol yw sefydlu:
-
rhwydwaith dysgu rhanbarthol ar gyfer y De Orllewin; -
rhwydwaith dysgu cyfrwng Cymraeg mewn perthynas ag ysgolion Cymraeg a dwyieithog Gorllewin a De Cymru.
Mae’r Brifysgol yn awyddus iawn i gwmpasu’r datblygiadau cyffrous hyn o fewn fframwaith Cyfadran Gysylltiol a fydd yn fodd o bontio gweithgarwch yr ysgolion gyda’r Brifysgol. Bydd y strwythur hwn yn caniatáu i ddisgyblion sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Uwch Gyfrannol/Uwch mewn ysgolion, gofrestru hefyd fel Myfyrwyr Cysylltiol yn y Brifysgol. Mae nifer o argymhellion yr adroddiad Addewid a Chyflawniad a gyhoeddwyd yn dilyn adolygiad annibynnol o genhadaeth a phwrpas addysg bellach yng Nghymru o dan arweiniad Syr Adrian Webb (Rhagfyr 2007) yn pwysleisio’r modd y gall disgyblion 16-18 oed elwa’n fawr o astudio ar lefel prifysgol cyn iddynt adael yr ysgol uwchradd. Yn yr un modd, y mae’r ddogfen Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Medi 2008, yn tanlinellu pwysigrwydd sefydlu rhwydweithiau dysgu rhanbarthol, gyda phrifysgolion, colegau addysg bellach ac ysgolion yn cydweithio’n agos i gyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion.
Mae’r Gyfadran Gysylltiol yn datblygu rhwydwaith llwyddiannus o drefniadau partneriaeth gydag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth. Bwriad y Brifysgol fydd ehangu’r ddarpariaeth i’r Colegau Addysg Bellach ar draws De-orllewin Cymru yn ystod 2011/12.

