Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Y Weledigaeth

Mae’r cysyniad o Gyfadran Gysylltiol yn ddatblygiad cwbl unigryw yng Nghymru. Y mae’n gynllun uchelgeisiol a blaengar sydd yn  darparu cyfleon addysgol amrywiol ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed er mwyn atgyfnerthu eu hastudiaethau yn yr ysgol ar y naill law a dyfnhau eu dealltwriaeth o brosesau dysgu amrywiol ar y llaw arall. Profwyd eisoes fod y ddarpariaeth amgen hon o gymorth sylweddol i’r myfyrwyr hynny y mae eu bryd ar barhau â’u haddysg ar lefel prifysgol.

Mae’r fframwaith cwricwlaidd a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr:

  • ddatblygu a gwella’u medrau dysgu gan ddatblygu’n ddysgwyr beirniadol, adfyfyriol ac annibynnol;
  • ehangu’u sgiliau cynllunio, ymchwil, meddwl yn feirniadol, dadansoddi, synthesu, gwerthuso a chyflwyno;
  • ddatblygu a chymhwyso sgiliau creadigol, gan arddangos blaengaredd a mentergarwch;
  • ddefnyddio’u profiadau dysgu i gefnogi’u dyheadau personol ar gyfer addysg uwch a datblygiad gyrfa.

Mae’r Gyfadran Gysylltiol yn agored i fyfyrwyr Blynyddoedd 12 a 13. Fe’u cofrestrir fel Myfyrwyr Cysylltiol o fewn y Brifysgol ac maent yn derbyn hawliau i ddefnyddio cyfleusterau cymorth dysgu’r sefydliad tra eu bod yn cymryd rhan mewn cwrs yma,  e.e. y Llyfrgell, y Ganolfan Adnoddau Addysgu a Gwasanaethau Myfyrwyr.

Myfyrwyr Eisoes datblygwyd cwricwlwm generig o gwmpas anghenion penodol ysgolion unigol. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys modylau Lefel 4 achrededig (sy’n gyfystyr â modylau blwyddyn gyntaf addysg uwch) er mwyn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu’u sgiliau cyfathrebu, eu sgiliau dysgu ac astudio a’u sgiliau dadansoddol. Wrth ganolbwyntio ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, hyderir y bydd y modylau o fudd mawr i’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau yn yr ysgol ac yn hwyrach o fewn eu dewis brifysgol.

Mewn ymateb i geisiadau gan nifer o ysgolion, mae ’r Brifysgol yn cynnig cyrsiau dwys i’w Myfyrwyr Cysylltiol mewn amrediad o feysydd cwricwlaidd. Cynigir y cyrsiau hyn yn bennaf naill ai ar y campws yng Nghaerfyrddin, neu ar y campws yn Llambed, lle mae modd i fyfyrwyr dreulio tridiau neu bedwar yn astudio, dysgu ac yn cymdeithasu yng nghwmni myfyrwyr o’u hysgolion nhw ac o  ysgolion eraill. Mae modd trefnu hefyd i’r darlithwyr ymweld ag ysgolion a chynnal rhai cyrsiau ar gampws yr ysgol lle bo galw