Pam fod y Brifysgol yn dymuno sefydlu Cyfadran Gysylltiol?
Yn y dyfodol, y mae’n bur debyg na fydd modd i unrhyw sefydliad sy’n gweithredu ar ei ben ei hun ddarparu cwricwlwm addysgol cyflawn i’w ddysgwyr. Bydd ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill o reidrwydd yn gorfod cydweithio, gan ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei wneud orau er mwyn cyflwyno cwricwlwm cyffrous a fydd yn diwallu anghenion ein myfyrwyr uwchradd. Bydd partneriaethau blaengar newydd rhwng ysgolion uwchradd a phrifysgolion yn ganolog i gyflwyno’r rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau addysg a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Un o brif amcanion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw datblygu yn ganolfan dysg ar gyfer y gymuned ranbarthol y mae’n rhan ganolog ohoni. Blaenoriaeth amlwg i’r sefydliad felly, yw sefydlu partneriaeth agos ag ysgolion uwchradd y rhanbarth gan ddarparu rhaglen lawn o weithgareddau priodol ar eu cyfer. Y mae’r Brifysgol yn ystyried y Gyfadran Gysylltiol yn rhan greiddiol o’r bartneriaeth honno.
Yn yr un modd, a chan gofio ei hymrwymiad i’r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, gwêl y Brifysgol hefyd gyfle i gefnogi a chydweithio’n agos â chymunedau yr ysgolion Cymraeg a dwyieithog ar draws De a Gorllewin Cymru. Fel prif ddarparydd addysg uwch cyfrwng Cymraeg De Cymru, y mae’n awyddus i sefydlu rhwydwaith dysgu sy’n fodd o gefnogi gwaith a chenhadaeth yr ysgolion hyn ar y naill law gan ddarparu cyfleon dysgu o’r newydd trwy gyfrwng y Gymraeg i’w myfyrwyr ar y llaw arall. Teimla fod gwaith y Gyfadran Gysylltiol yn ffordd flaengar a hwylus o gyflawni’r nod hwnnw.
Mae’r Brifysgol hefyd yn gweld rôl amlwg gan y Gyfadran Gysylltiol fel cyfadran a fydd yn bwydo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a, thrwy hynny, yn darparu ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch Cymru nifer cynyddol o fyfyrwyr a fydd yn dymuno dilyn eu cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

