Sut mae'r ysgol uwchradd yn elwa o'r cynllun?
- Mae’r ddarpariaeth yn atgyfnerthu’r broses dysgu ac addysgu yn yr ysgol uwchradd.
- Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgol.
- Mae modd iddi fanteisio ar arbenigeddau penodol y brifysgol honno.
- Mae’r cynllun yn cefnogi’r ysgol uwchradd yn nghyd-destun y Llwybrau Dysgu 14-19.
- Mae modd iddi ddefnyddio rhai o adnoddau’r Brifysgol.
- Gall y syniad fod yr ysgol ynghlwm â chynllun o’r fath fod yn atyniadol i rieni a darpar-rieni.
- Byddid yn sicrhau y byddai gostyngiad mewn ffioedd ar gyfer staff yr ysgol uwchradd a fyddai’n dymuno cofrestru ar raglenni ôl-raddedig yn y Brifysgol.
- Mae adnoddau proffesiynol cyfrwng Cymraeg ar gael at ddefnydd yr ysgol uwchradd.
- Mae’n fodd o godi proffil addysg uwch o fewn yr ysgol.
- Ag eithrio cyfraniad bach am adnoddau ar gyfer y cwrs Tsienëeg, mae’r profiadau dysgu’n cael eu darparu’n rhad ac am ddim i’r ysgol.

