Anelu'n Uwch at Ragoriaeth 

Myfyrwyr Sut y mae myfyrwyr ysgol uwchradd yn elwa o'r cynllun?

  • Mae’r ddarpariaeth yn fodd iddynt ddatblygu ymhellach ystod o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o werth iddynt yn eu dewis brifysgol.
  • Mae modylau pynciol yn fodd iddynt ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u meysydd arbenigol. 
  • Mae modd iddynt fanteisio ar adnoddau cefnogi dysgu’r Brifysgol gan gynnwys ei llyfrgell a’i gwasanaeth gyrfaoedd. 
  • Maent yn cael profiad cynnar o gyflawni gwaith ar lefel prifysgol. 
  • Mae modd iddynt gyfeirio at eu profiadau/cyflawniadau fel aelodau o’r Gyfadran Gysylltiol wrth iddynt geisio am le yn eu dewis brifysgol. 
  • Mae pob disgybl a fyddai wedi cwblhau un modwl yn llwyddiannus yn cael gwahoddiad i un o seremonïau gwobrwyo arbennig y Gyfadran Gysylltiol.