Sut y mae'r Brifysgol yn elwa o'r cynllun?
- Mae’r Brifysgol yn cael cyfle i gydweithio ag ysgolion ei chymunedau gwahanol.
- Mae’n cael cyfle i farchnata ei darpariaeth israddedig yn yr ysgolion.
- Mae’r cynllun yn ateb gofynion ym maes ‘ehangu mynediad’.
- Mae’n cyfrannu at y broses o baratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch.
- Mae’n cefnogi rhai o strategaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru a hynny mewn dull blaengar ac unigryw.

