Gweld pob eitem o'r newyddion...
Actorion a myfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant ar daith gyda drama newydd
10.01.2012
Dros yr wythnosau nesaf bydd actorion profiadol yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Ysgol y Celfyddydau Perfformio - Prifysgol y Drindod Dewi Sant - ar gynhyrchiad teithiol o’r ddrama Torri Gair, sef cyfieithiad Elan Closs Stephens o’r ddrama Translations gan Brian Friel.
Ysgrifennwyd Translations yn wreiddiol ym 1980. Fodd bynnag, mae’n ddrama ag iddi themâu oesol a phellgyrhaeddol hefyd, sy'n ymwneud â iaith, cyfathrebu a hunaniaeth, ac yn amlygu cwestiynau ynghylch imperialaeth ddiwylliannol a breuder y cof.
Yn ymuno â’r cast o fyfyrwyr 3ydd blwyddyn Ysgol y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, fydd yr actorion profiadol Huw Emlyn a Ioan Hefin – y ddau yn wynebau cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar lwyfannau theatr ac ar y sgrin. Mae’r penderfyniad o gyfuno actorion proffesiynol profiadol â’r myfyrwyr yn un cwbl fwriadol yn ôl y darlithydd a’r cyfarwyddwr Iestyn Llwyd.
“Fe ddylai bod modd i’r myfyrwyr elwa’n fawr o gydweithio ar y cyd gydag actorion mor brofiadol ar y cynhyrchiad: yn gallu dilyn cynghorion a rhannu arferion proffesiynol da, drwy anelu at gyrraedd safonau proffesiynol gyda’u gwaith, a hefyd i godi eu disgwyliadau ohonynt eu hunain o safbwynt eu mewnbwn a’u hymroddiad i’w prosesau ymarfer a’u perfformiadau terfynol.”
Yn ôl yr actor Ioan Hefin:
“Dwi'n gredwr cryf mewn dysgu drwy brofiad, ac yn cymeradwyo unrhyw Ysgol, Goleg neu Brifysgol sy'n mentro tu hwnt i'w ffiniau 'diogel'. Mae'r byd actio yn dŵr o gyfleoedd annisgwyl, a dwi'n gobeithio bydd y myfyrwyr yn elwa wrth rannu'r ystafell ymarfer. Yn bersonol, fel actor ac fel person, mae'r broses o ddysgu yn parhau gydol oes.”
Yn ogystal â phontio’r gagendor rhwng gwaith Prifysgol a’r gweithle proffesiynol, bydd yn her ychwanegol hefyd i’r cast i berfformio yn y ddwy iaith, gan fod bwriad i gyflwyno perfformiadau o’r ddrama yn y Saesneg gwreiddiol yn ogystal â’r perfformiadau Cymraeg. Hwyrach y bydd hefyd yn ddiddorol i’r cast i fesur ymateb y cynulleidfaoedd gwahanol i’r ddrama yn y ddwy iaith.
Manylion y daith:
Theatr Halliwell, Campws y Brifysgol, Caerfyrddin
Sul 5ed Chwefror am 7:30pm (*S)
Llun, 6ed Chwefror am 7:30pm (C)
+ Matinee i Ysgolion (i’w gadarnhau) (C)
Llinell archebu tocynnau: 0845 226 3510
Theatr Soar, Merthyr Tydfil
Iau 9fed Chwefror am 7:30pm (C)
+ Matinee i Ysgolion (i’w gadarnhau), (C)
Llinell archebu tocynnau 01685 722176
Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer, Caerdydd
Gwener Chwefror 10fed am 7:30pm (C)
Sadwrn Chwefror 11eg am 3:00pm (C), 7:30pm (*S)
Llinell archebu tocynnau 029 2063 1144
(C) = perfformiad Cymraeg
(S) = perfformiad Saesneg
Gwybodaeth Bellach
Iestyn Llwyd
Ysgol y Celfyddydau Perfformio (YDDS):
i.llwyd@ydds.ac.uk
01267 676640
Gweld pob eitem o'r newyddion...

