Gweld pob eitem o'r newyddion...

Gwrthrychau'r Aifft yn Llambed

14.02.2012

Yn dilyn arwyddo Memorandwm o Gyd-weithio rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful, mae’r cyntaf o wrthrychau Eifftaidd hynafol sy’n perthyn i'r amgueddfa wedi cyrraedd Archifau Roderick Bowen ar Gampws Llambed.

Daeth yr arteffactau i Lambed trwy law’r curadur Kelly Powell o Amgueddfa Castell Cyfarthfa a’u gosod fel arddangosfa ymchwil gan yr Eifftolegydd, Dr Katharina Zinn o'r Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg.

Caiff y gwrthrychau hyn eu hymchwilio gan fyfyrwyr fel rhan o'r modiwl "Credoau Angladdol Yr Hen Aifft" gyda'u cynullydd modiwl Katharina Zinn. Drwy ymchwilio a thrafod y eitemau mewn dosbarthiadau, bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu eu hasesiadau arnynt i baratoi y cofnodion catalog. O ganlyniad i’r modiwl hwn, cynhelir arddangosfa yn y Roderick Bowen yn ystod mis Mai a mis Mehefin eleni, a redir gan wirfoddolwyr ac a fydd yn cynnwys gweithdai gyda phlant ysgol lleol.

"Mae hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw ar gyfer ymchwil cynradd o arteffactau na astudiwyd o'r blaen, gan y myfyrwyr eu hunain. Daeth y gwrthrychau hyn i'r amgueddfa a oedd newydd ei sefydlu yn 1911 fel cymynrodd ac nid oes neb wedi edrych arnynyt ers hynny, " meddai Katharina Zinn.

Gwybodaeth Bellach

Elinor Howells
01570 424859
e.howells@ydds.ac.uk





Gweld pob eitem o'r newyddion...