Cyhoeddiadau Brys
Symptomau llid yr ymennydd (meningitis) mewn oedolion
Yn anffodus mae llawer o bobl yn dal i gredu mai babanod a phlant yn unig sy’n cael eu heffeithio gan lid yr ymennydd a septisemia. Nid felly y mae. Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg, beth bynnag bo’i oed; mae’n dechrau mewn munudau ac yn gallu lladd mewn oriau. Gall adnabod symptomau’r clefyd, ymddiried yn eich greddf a chael cymorth meddygol ar unwaith arbed bywydau.
Arwyddion a symptomau cyffredin llid yr ymennydd a septisemia.
Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn. Efallai na fydd rhai’n ymddangos o gwbl.
- Gwres, dwylo a thraed oer
- Chwydu
- Yn gysglyd, yn anodd ei ddihuno
- Dryswch a bod yn flin
- Poen dybryd yn y cyhyrau
- Croen gwelw â blotiau coch.Smotiau / brech
- Pen tost dybryd
- Gwar yn stiff
- Ddim yn hoffi goleuadau llachar
- Ffitiau
Os byddwch yn amau llid yr ymennydd neu septisemia, mynnwch help meddygol ar unwaith.
Gallwch:
- Ffonio Galw Iechyd Cymru /NHS 24 neu'ch meddyg teulu.
- Mynd i’r adran ddamweiniau agosaf.
- Ffonio 999 am ambiwlans.
- Disgrifio’r symptomau’n ofalus gan ddweud eich bod yn meddwl y gallai fod yn llid yr ymennydd neu septisemia.
- Gall fod yn anodd wneud diagnosis cynnar. Os ydych wedi cael cyngor ond yn dal i boeni, mynnwch help meddygol eto.
- Ymddiried yn eich greddf.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd yn cynnig cymorth emosiynol, ymarferol ac ariannol i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan lid yr ymennydd. Porth ein gwasanaethau yw’n llinell gymorth 24 awr sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei arwain gan nyrsys (0800 028 18 28). I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau i'w lawrlwytho, ewch i'n gwefan
http://www.meningitis-trust.org/


