Polisi Preifatrwydd o Ran Talu Ar-Lein
Er mwyn gweithredu system talu ar-lein Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (“y Brifysgol”), mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn storio gwybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno i’r system trwy’r wefan talu ar-lein, neu’n ei rhoi i’r Brifysgol mewn rhyw ffordd arall. Darllenwch y polisi preifatrwydd canlynol i ddeall sut mae’r Brifysgol yn defnyddio ac yn diogelu’r wybodaeth a ddarperir gennych.
Darperir a chynhelir y system talu ar-lein gan y Brifysgol a’i chyflenwyr trydydd parti. Trwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r Brifysgol gadw a defnyddio’r wybodaeth honno yn unol â'r polisi hwn. Gall y polisi newid a bydd unrhyw newidiadau iddo yn y dyfodol yn cael eu nodi ar y dudalen hon. Trwy barhau i ddefnyddio’r safle talu hwn rydych chi’n cytuno â’r newidiadau hynny. Argymhellwn eich bod yn darllen y polisi preifatrwydd bob tro y byddwch yn ymweld â’r safle.
Cynnwys
- Gwybodaeth a gasglwn gennych chi a’ch defnydd chi o'r safle
- Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
- Sut y byddwn yn trin y data a gyflwynir gennych
- Dolenni i wefannau allanol
- Sut i gysylltu â ni
1. Gwybodaeth a gasglwn gennych chi a’ch defnydd chi o'r safle
Pan ewch chi i www.ydds.ac.uk/cy/cyllid/taliad/ mae’n bosibl y gofynnir i chi roi gwybodaeth benodol amdanoch chi’ch hun, yn cynnwys eich rhif myfyriwr neu rif UCAS, dyddiad geni, enw, manylion cysylltu a manylion ariannol, cyn i chi allu symud ymlaen i ddefnyddio’r system talu ar-lein.
1.1 Gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni
Byddwn yn derbyn ac yn cadw unrhyw wybodaeth a roddir gennych ar ein gwefan neu a roddir mewn unrhyw ffordd arall. Byddwch yn darparu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth hon wrth dalu, neu wrth drefnu taliad mynych â cherdyn neu gyfarwyddyd debyd uniongyrchol, neu drwy ohebu â ni am unrhyw reswm arall. Gall y wybodaeth hon gynnwys eich rhif myfyriwr neu rif UCAS, dyddiad geni, enw, manylion cysylltu a manylion ariannol.
Gallwch ddewis peidio â darparu gwybodaeth, er y gallai hynny fod yn angenrheidiol er mwyn talu.
1.2 Gwybodaeth Awtomatig
Rydym yn awtomatig yn derbyn ac yn cadw mathau penodol o wybodaeth bob tro y byddwch chi’n rhyngweithio â’r wefan talu ar-lein. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth i fonitro traffig ar y wefan ac i helpu gyda gwe-lywio a phrofiad y defnyddiwr o’r wefan.
Mae’r wybodaeth y byddwn ni’n ei derbyn yn awtomatig yn cynnwys:
- Yr URL y gofynnwyd amdano (Uniform Resource Locator/Lleolydd Adnoddau Unffurf)
- Cyfeiriad IP (Internet Protocol) (efallai y bydd hwn yn dynodi cyfrifiadur penodol neu efallai ddim)
- Enw parth a ddefnyddir gennych i gael mynediad i’r rhyngrwyd
- URL cyfeiriol
- Meddalwedd (porwr/system weithredu) a ddefnyddiwyd i gael mynediad i’r dudalen
- Y dyddiad a’r amser yr ymwelwyd â’r tudalennau
Pan fyddwch chi’n ymweld â rhai tudalennau ar y safle, mae’n bosibl y bydd eich cyfrifiadur yn derbyn ffeil fach neu “cwci”. Darn o wybodaeth yw cwci ar ffurf ffeil testun fach iawn a roddir ar yriant caled defnyddiwr y Rhyngrwyd. Mae’n cael ei chreu gan weinydd gwe y system talu ar-lein. Mae’r wybodaeth yn y cwci’n cael ei bennu gan y gweinydd a gall y gweinydd hwnnw ei defnyddio bob tro y bydd y defnyddiwr yn ymweld â’r safle. Mae’r gweinydd yn defnyddio cwcis i adnabod eich sesiwn pori os byddwch yn ymweld â nifer o dudalennau wrth ryngweithio â’r system talu ar-lein.
Gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis neu i’ch rhybuddio cyn eu derbyn. Fodd bynnag, ni fydd y wefan talu ar-lein yn gweithio’n iawn heb dderbyn cwcis.
I gael rhagor o wybodaeth am cwcis, ewch i AboutCookies.org.
2. Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
2.1 Cwblhau archeb
Cedwir data personol a gesglir fel rhan o’r broses talu yn bennaf er mwyn cwblhau eich archeb. Cedwir y data hwn gan sefydliadau bancio a dosbarthu trydydd parti dibynadwy sy’n ymdrin â thrafodion cerdyn ein cwsmeriaid ac sy’n cwblhau archebion. Gellir ei ddefnyddio i unrhyw rai o’r dibenion canlynol: cyfrifo, bilio ac archwilio, dibenion gweinyddol a chyfreithiol, diogelwch a gwirio talu.
2.2 Dadansoddi
Gallwn hefyd ddefnyddio a dadansoddi’r wybodaeth a gasglwn er mwyn rheoli a gwella’n gwasanaethau ar y wefan. Gellir casglu a defnyddio gwybodaeth ddemograffig ac ystadegol ynglŷn ag ymddygiad defnyddwyr i ddadansoddi poblogrwydd ac effeithiolrwydd y wefan. Os datgelir y wybodaeth hon, bydd ar ffurf data cyfanredol ac ni fydd yn nodi defnyddwyr unigol.
3. Sut y byddwn yn trin y data a gyflwynir gennych
3.1 Deddfwriaeth Diogelu Data
Y Brifysgol yw eich rheolydd data. Fel eich rheolydd data mae’r Brifysgol wedi rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am ei gweithgareddau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Diogelu Data 1998 (y “Ddeddf”) ac mae wedi’i rhestru yn y Gofrestr Gyhoeddus o Reolyddion Data. Bydd y Brifysgol yn casglu a/neu’n prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â’r Ddeddf yn unig.
3.2 Diogelu Data
Gofynnir i chi ddiogelu data sensitif bob amser drwy gydol eich trafodion ar-lein. Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn gallu gweld dros eich ysgwydd wrth i chi deipio gwybodaeth bersonol a chaewch eich porwr wedi i chi orffen. Mae’r Brifysgol a’i chyflenwyr trydydd parti wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a roddwch a’r taliadau a wnewch wrth ddefnyddio’r safle yn ddiogel. Rydym ni’n gweithio i amddiffyn diogelwch eich gwybodaeth wrth iddi gael ei throsglwyddo. Mae’r safle wedi’i ddiogelu gan ddefnyddio Tystysgrif Gweinydd Gwe Thawte SSL i gynnig cyfathrebu diogel trwy amgryptio’n awtomatig y data i gyd wrth iddo gael ei roi i mewn.
Dylech wybod ei bod yn rhaid i’r cyfrifiadur a ddefnyddiwch i gysylltu â’r system talu ar-lein (trwy borwr gwe) fod yn ddiogel hefyd, ac y dylai gynnwys y system weithredu a’r feddalwedd ddiweddaraf, a diweddariadau gwrth-firws. Gallai defnyddio cyfrifiadur a rennir i gysylltu â’r system talu ar-lein gynyddu’r risg y bydd eraill yn gweld eich gwybodaeth sensitif.
3.3 Datgelu eich gwybodaeth
- Ac eithrio fel y nodwyd yn y polisi hwn neu fel sydd yn ofynnol gan y gyfraith, ni ddarperir eich data personol i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd ysgrifenedig chi o flaen llaw.
- Cedwir y wybodaeth a ddarperir gennych ar ein cyfrifiaduron yn y DU. Mae’n bosibl y caiff ei rhoi i sefydliadau trydydd parti neu y caniateir iddynt weld y wybodaeth. Mae rhai ohonynt wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan weithredu ar ein rhan i gyflawni dibenion y polisi hwn neu ddibenion eraill a gymeradwywyd gennych chi. Mae’r partïon hynny’n prosesu gwybodaeth ac mae’n bosibl eu bod yn darparu gwasanaethau cymorth i’r Brifysgol neu ar ran y Brifysgol.
- Nid oes gan wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd gyfreithiau cryf bob amser i ddiogelu data. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn cymryd camau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan drydydd partïon yn unol â’r polisi hwn.
- Rydym yn cyflogi cwmnïau eraill ac unigolion i gyflawni swyddogaethau ar ein rhan ac yn eu tro mae’n bosibl y byddan nhw hefyd yn defnyddio sefydliadau trydydd parti ar gyfer y swyddogaethau hyn. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys prosesu taliadau cardiau credyd a gwesteia’r wefan (“Asiantaethau dan Gontract”). Caiff yr Asiantaethau dan Gontract fynediad i’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i gyflawni eu swyddogaethau, ond ni chânt ei defnyddio i unrhyw ddibenion eraill.
- Yn achlysurol mae’n bosibl y bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi’n cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill i atal twyll. Os na fyddwch chi wedi talu tâl sy’n ddyledus i’r Brifysgol, gall y Brifysgol ddatgelu data personol digonol i drydydd parti i’w alluogi i fynd ar ôl y ddyled a chasglu’r arian oddi wrthych. Gall trydydd partïon gynnwys cyfreithwyr, asiantau a benodir gan y Brifysgol (er enghraifft asiantau olrhain a chasglu dyledion) a’r Llysoedd.
3.4 Monitro’r Defnydd o Systemau’r Brifysgol
Er mwyn amddiffyn diogelwch a gweithrediad systemau rhwydwaith a chyfrifiadurol y Brifysgol, mae’n bosibl y bydd yn rhaid monitro neu logio’r defnydd o’r systemau hyn. Os oes unrhyw arwydd bod y systemau wedi’u camddefnyddio neu fod unigolion yn defnyddio systemau y tu hwnt i’w hawdurdod, gellir rhyng-gipio, monitro, recordio, copïo, archwilio ac arolygu ffeiliau, negeseuon a phob defnydd arall a wneir o’r systemau a’u datgelu i staff awdurdodedig y Brifysgol a phersonél Gorfodi’r Gyfraith.
4. Dolenni i wefannau allanol
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol ac nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol iddynt. Gall polisïau preifatrwydd y safleoedd eraill hyn fod yn wahanol i hwn.
5. Sut i gysylltu â ni
Os yw’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch newid a diweddaru eich gwybodaeth bersonol. Gellir cywiro’ch gwybodaeth ond i chi gysylltu â ni.
Os gofynnir am hynny, byddwn yn rhoi copi darllenadwy i chi o’r data personol sydd gennym amdanoch, ond i chi gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod. Gallwn ofyn am brawf o bwy ydych cyn rhoi’r wybodaeth hon i chi er mwyn sicrhau cyfrinachedd.
Rydym yn caniatáu i chi gwestiynu’r data sydd gennym amdanoch a lle bo hynny’n briodol gellir dileu, cywiro, newid neu gwblhau’r data. Os oes gennych gwynion neu gwestiynau am y polisi preifatrwydd neu gwestiynau am ddiogelu data’n gyffredinol, cysylltwch â:
Wendy Xerri
Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hysbysrwydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Heol y Coleg
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 3EP
Ffôn: 01267 676946
E-bost: w.xerri@ydds.ac.uk
Medi 2011 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

