Telerau ac Amodau
PWYSIG: Wrth dalu trwy safle talu ar-lein Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (“Y Brifysgol”) rydych chi’n cytuno â’r telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych chi’n derbyn y telerau hyn, peidiwch â pharhau â’ch taliad.
Darperir y system talu ar-lein gan y Brifysgol a’i chyflenwyr trydydd parti. Mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn diweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd a bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar unwaith wedi iddynt gael eu nodi yma. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r telerau cyfredol.
Rydym yn gwneud ein gorau bob amser i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol yn y DU:
Rheoliadau Gwerthu o Bell 2000
Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003
1. Amdanom ni
Dyma’n manylion cysylltu:
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Y Swyddfa Gyllid
Heol y Coleg
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
Ffôn: +44 (0)1267 676704
Ffacs: +44 (0)1267 676705
E-bost: ffiodd@ydds.ac.uk
2. Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’ch defnydd o’r system talu ar-lein, cysylltwch â ni (gweler y manylion uchod).
3. Defnydd
3.1 Y Brifysgol neu’i thrwyddedwyr sydd â’r hawlfraint am y testun, y delweddau a’r holl gynnwys arall ar y safle talu hwn oni bai y nodir yn benodol fel arall. Trwy fynd i’r safle talu hwn, rydych chi’n cytuno bod y safle talu ar gael at eich defnydd personol, anfasnachol yn unig. Oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan y Brifysgol, ni chaniateir i chi gopïo, darparu i’r cyhoedd, lawrlwytho, storio (mewn unrhyw gyfrwng), dangos yn gyhoeddus, addasu na newid mewn unrhyw fodd y deunydd (neu ran ohono) sydd wedi’i gynnwys ar y safle talu hwn i unrhyw ddiben.
3.2 Heb fod yn gyfyngedig i faterion sydd wedi’u nodi yn y telerau ac amodau defnyddio hyn neu’r Polisi Preifatrwydd o ran Talu’n Electronig, rhaid i chi beidio â defnyddio’r safle hwn i wneud y canlynol:
- cyflawni neu annog gweithredoedd anghyfreithlon neu weithredoedd sy’n torri’r telerau defnyddio hyn;
- cam-gyfleu pwy ydych;
- hacio, neu geisio hacio, unrhyw ran o’r safle talu neu unrhyw system a ddefnyddir i’w redeg;
- storio data personol sy’n deillio o’r safle talu;
- gwneud difrod yn dechnegol i’r safle talu a/neu’i systemau (yn cynnwys, heb gyfyngiad, firysau cyfrifiadurol neu feddalwedd maleisus neu ddata niweidiol);
- darparu unrhyw wybodaeth sy’n anghywir neu sy’n torri unrhyw gyfreithiau neu reoliadau. Os bydd gwybodaeth a ddarperir gennych wrth ddefnyddio’r system talu ar-lein yn anghywir neu’n groes i gofnodion y Brifysgol, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid drwy e-bostio ffiodd@ydds.ac.uk
4. Ymwadiad
4.1 Er y bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a’r cynnwys ar y safle talu hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi ar y safle, nid yw’n gwarantu bod hynny’n wir. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r deunydd ar y wefan hon a’i chyfleuster talu ar-lein yn cael ei ddarparu “fel ag y mae”, a heb warantau, amodau na thelerau eraill o unrhyw fath.
4.2 Er y bydd y Brifysgol yn ymdrechu’n rhesymol i sicrhau bod y system talu ar-lein ar gael a bod modd ei ddefnyddio bob amser, nid yw’n gwarantu mynediad parhaus, di-dor neu ddiogel i’r system. Er y gwnaed pob ymdrech resymol i sicrhau hygyrchedd, nid yw’r Brifysgol yn gwarantu y bydd defnyddio’r system talu ar-lein yn gydnaws â holl galedwedd a meddalwedd ei defnyddwyr. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i atal mynediad neu dynnu hawl mynediad yn ôl, heb rybudd, i’r safle talu cyfan neu ran ohono, am unrhyw reswm.
4.3 Nid oes unrhyw beth ar y safle talu hwn sy’n gyfwerth â rhan o gontract oni nodir yn benodol fel arall.
4.4 Nid yw’r Brifysgol yn gwirio dolenni i wefannau trydydd parti o fewn y safle talu hwn ac nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol o gwbl am gynnwys safleoedd allanol. Os ewch i safleoedd allanol trwy’r safle talu hwn, byddwch yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun.
5. Atebolrwydd
5.1 I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r Brifysgol yn gwrthod pob atebolrwydd a chyfrifoldeb am unrhyw swm, neu fath o golled, neu ddifrod, a all ddod i’ch rhan chi neu drydydd parti mewn cysylltiad â’r defnydd o’r safle talu hwn mewn unrhyw ffordd. Ni fydd unrhyw beth yn cyfyngu ar atebolrwydd y Brifysgol am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei hesgeulustod, neu am dwyll.
5.2 Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys sydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhydd o firysau. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddifrod o ganlyniad i firws.
6. Hawlfraint, nodau masnach ac eiddo deallusol arall
6.1 Oni nodir yn wahanol, y Brifysgol neu’i thrwyddedwyr sydd â hawlfraint ac eiddo deallusol arall y testun, delweddau a'r holl ddeunydd arall ar y safle talu hwn.
6.2 Mae’r nodau masnach a’r logos a ddefnyddir ac a arddangosir ar y wefan hon yn nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig y Brifysgol, neu eraill. Ni chewch ddefnyddio’r nodau masnach hyn heb ein caniatâd ysgrifenedig o flaen llaw, neu ganiatâd y perchennog perthnasol.
7. Diogelu data
Gweler Polisi Preifatrwydd y Brifysgol sy’n rheoli defnydd y Brifysgol o’ch gwybodaeth bersonol.
8. Cyfraith ac awdurdod llywodraethol
Mae'r telerau defnyddio hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi mewn perthynas â nhw’n ddarostyngedig i awdurdod anghyfyngedig llysoedd Lloegr.
9. Amrywiol
9.1 Ni fwriedir i’r telerau defnyddio hyn gyflwyno budd i drydydd parti, ac ni fyddant yn gwneud hynny, boed hynny o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Bartïon) 1999 neu fel arall.
9.2 Os byddwch chi’n torri’r telerau hyn a’r Brifysgol yn esgusodi hynny, ni ddylid ystyried y bydd yn esgusodi torri’r un ddarpariaeth neu ddarpariaeth arall yn ddiweddarach.
9.3 Mae penawdau adrannau wedi’u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn rhan o’r telerau hyn na’u defnyddio i ddehongli’r telerau.
9.4 Os daw unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â’r telerau hyn yn annilys neu’n anghyfreithlon unrhyw bryd, bernir bod y ddarpariaeth honno wedi’i gwahanu oddi wrth y telerau, ond ni effeithir ar ddilysrwydd y darpariaethau sy’n weddill na’r gallu i’w gorfodi o ganlyniad i hyn.
Medi 2011 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

