Astudio Trwy Gyfrwng y Gymraeg
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleoedd i fyfyriwr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth sydd gan fyfyrwyr sydd eisioes yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i’w ddweud?
Delyth
"Delyth Mclean ydw i a dw i’n astudio cwrs Yr Actor a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Dw i’n hoff iawn o ganu, actio a’r cyfryngau celfyddydol ac mae’r profiad o fod yn y brifysgol yn barod wedi fy nghyffroi, gan cynnig cyfleoedd newydd i mi.
Mae bob dydd yn sialens newydd yma yn Drindod Dewi Sant a dw i wastad yn barod amdani!"
Iwan
"Fel Cymro, ac un sydd wedi cael fy’n addysgu ar hyd y blynyddoedd yn y Gymraeg, roedd parhau i astudio yn y Gymraeg yn gam naturiol a phwysig i mi. Mae’n dangos parch person at ei famiaith.
Fel darpar athro, bydd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg o fantais mawr i mi.
I unrhyw un sydd eisiau gweithio yng Nghymru mae’r Gymraeg yn hollbwysig gan fod darparu gwasanaeth dwyieithog wedi ymsefydlu’n farc o ansawdd. Felly, hollbwysig yw meddu ar sgiliau Cymraeg da a’r gallu i’w ddefnyddio ymhob agwedd o’m mywyd."
Pam astudio drwy’r Gymraeg?
- Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi
- Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog
- Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch
- Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa
Am fwy o wybodaeth, codwch y ffôn neu e-bostiwch ni
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ein cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, codwch y ffôn neu ebostiwch ni. Gallan ni anfon prosbectws, trefnu ymweliad neu drefnu lle i chi ar ein Diwrnodau Agored.
Ffôn:
Campws Caerfyrddin
01267 676716
Campws Llanbedr Pont Steffan
01570 424831
E-bost:
Campws Caerfyrddin
cofrestrfacc@
ydrindoddewisant.ac.uk
Campws Llanbedr Pont Steffan
cofrestrfacll
@ydrindoddewisant.ac.uk


