Mae ymchwil ac ysgolheictod wrth galon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Ymchwil o fri rhyngwladol
- Astudio hyblyg ar gyfer doethuriaeth trwy astudio preswyl neu astudio o bell
- Prifysgol hanesyddol a arweinir gan ymchwil
Mae ymchwil ac ysgolheictod wrth galon Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Croesawn geisiadau i wneud graddau ymchwil ac mae profiad sylweddol gennym o arolygu myfyrwyr preswyl a myfyrwyr astudio o bell hyd at gwblhau’u graddau.

Ein Graddau Ymchwil
Beth yw PhD?
Mae PhD yn ddarn o waith ymchwil sylweddol a gwreiddiol sy’n arwain at draethawd 100,000 o eiriau, fel arfer wedi’i gwblhau dros 3 i 4 blynedd (neu’n hirach os byddwch yn dewis astudio’n rhan amser). Mae pobl yn gwneud PhD am amryw o resymau, o ddatblygu gyrfa i ddiddordeb personol. Bydd ysgolhaig profiadol yn arolygu’r ymchwil ar gyfer eich PhD a bydd yn eich helpu i gyflawni’ch nodau personol.
Beth yw MPhil?
Mae MPhil yn ddarn o waith ymchwil gwreiddiol sy’n arwain at draethawd 60,000 o eiriau, fel arfer wedi’i gwblhau dros 1 i 3 blynedd (neu’n hirach os byddwch yn dewis astudio’n rhan amser). I fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud ymchwil graddedig yn hytrach na chwrs a addysgir, ac nad ydynt efallai â’r cymwysterau i fynd ati’n syth i wneud PhD, mae’r MPhil yn ddewis rhagorol.
Ydw i’n gymwys?
Nid oes cyfyngiad o ran oedran, ond fel arfer rydym yn disgwyl i fyfyrwyr PhD feddu ar radd Meistr mewn pwnc perthnasol. Os nad oes gradd Meistr gennych, neu os nad ydych yn teimlo’n barod ar gyfer ymchwil ar lefel doethuriaeth, gallwch ddechrau drwy wneud cais am MPhil ac wedyn uwchraddio i PhD ar ôl 1-2 flynedd gyda chaniatâd y Brifysgol.
Faint bydd yn ei gostio?
Mae ffioedd yn amrywio yn sgil llawer o ffactorau. Cliciwch yma am y ffioedd cyflawn
Pryd galla i ddechrau?
Gellir dechrau ar dau adeg yn y flwyddyn: mis Hydref a mis Chwefror
Ble a sut galla i astudio?
Naill ai gartref neu ar un o’n dau gampws yng Nghaerfyrddin a Llambed; yn llawn amser neu’n rhan amser.
Research Summer School
13 – 17 June 2011
All TSD postgraduate students are invited to the Research Summer School which is to take place the week of 13 – 17 June 2011.
Further details will be made available on the website soon
Ysgol Haf Ymchwil 2 a 6 Gorffennaf 2012
Cysylltu â Ni
Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig
Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant
Campws Llambed
Ceredigion
Cymru, SA48 7ED
ffôn +44 (0) 1570 424900
Ebost:
postgradresearch
@ydds.ac.uk

