Beth Dylwn i ei Wneud Nesaf?
1. Dewis eich maes pwnc
Am fanylion meysydd diddordeb, arbenigedd a chyhoeddiadau aelodau o staff, ewch i dudalen y meysydd ymchwil [link] neu dudalennau’r Ysgol Academaidd berthnasol.
2. Chwilio am gyngor
Mae unigolyn cyswllt penodol ar gyfer myfyrwyr ymchwil posibl gan lawer o adrannau. Fel arall, gallwch gysylltu â’r aelod unigol o staff perthnasol i drafod eich diddordebau ymchwil a pharatoi’ch cynnig ymchwil. Ni ddylai cynnig ymchwil fod yn hirach na 500 o eiriau o hyd a dylai amlinellu’ch cwestiwn/cwestiynau ymchwil a methodoleg arfaethedig.
3. Gwneud cais
Llwythwch lawr becyn cais ôl-raddedig neu cysylltwch â’r Gofrestrfa Academaidd am gopi papur. Rhaid i’ch cynnig ymchwil gael ei gysylltu â’r ffurflen gais. Nid oes dyddiad cau ar gyfer derbyn cais ond bydd eich cais yn cymryd hyd at 6 wythnos i gael ei brosesu gyda’n hymateb.
Cysylltu â Ni
Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig
Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant
Campws Llambed
Ceredigion
Cymru, SA48 7ED
ffôn +44 (0) 1570 424900
Ebost:
postgradresearch
@ydds.ac.uk

