Campws Llambed

 Neuadd Fwyta Lloyd ThomasArlwyo

Blasus dros ben!

Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Brifysgol yn agored i bob aelod o'r staff a phob myfyriwr ynghyd â'r cyhoedd. Mae Siop Goffi 1822Neuadd Fwyta Lloyd Thomas yn cynnig coffi rhagorol a phrydau cynnes ar gyfer brecwast a chinio, ynghyd â byrbrydau ysgafn a diodydd eraill a Charferi poblogaidd ar ddydd Sul. Mwy...

Cynadleddau

Yr Ystafell Fwyta BreifatLleoliad Gwych i Gynadleddau a Chyfarfodydd

Mae campws Llambed yn cynnig ystod o gyfleusterau cynadledda a chyfarfod i grwpiau rhwng 6 a 450 o bobl, a’r cyfan ar ein campws sydd wedi'i dirlunio’n ddeniadol yng Nghanolbarth Cymru. Gellir llogi ein hystafelloedd cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd diwrnod a digwyddiadau preswyl hwy gyda llety cysurus a phrydau gerllaw. Mwy...

Gwasanaethau Priodas

Llongyfarchiadau

Priodas yn Llambed

Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich dyweddïad a dymuno bywyd hir a hapus i chi’ch dau gyda’ch gilydd. Mae Gwasanaethau Arlwyo yn arbenigo mewn gwleddoedd priodas ac mae ganddynt dîm proffesiynol o staff sydd â’r arbenigedd i’ch helpu i drefnu eich diwrnod arbennig. Mwy...