Arlwyo - Campws Llambed
Blasus dros ben!
Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Brifysgol yn agored i bob aelod o'r staff a phob myfyriwr ynghyd â'r cyhoedd. Mae Siop Goffi 1822 a Neuadd Fwyta Lloyd Thomas yn cynnig coffi rhagorol a phrydau cynnes ar gyfer brecwast a chinio, ynghyd â byrbrydau ysgafn a diodydd eraill a Charferi poblogaidd ar ddydd Sul.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad arbennig, gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau bach a mawr. Neuadd Lloyd Thomas yw’r lleoliad mwyaf yng Ngheredigion a gall ddarparu seddau ar gyfer 375 o bobl ar gyfer ciniawau, priodasau neu swyddogaethau eraill, ac mae ystafelloedd eraill sy’n fwy cartrefol eu hawyrgylch ar gyfer grwpiau llai. Mae prydau traddodiadol a llysieuol ar gael ym mhob lleoliad ac mae ein tîm penodol o staff arlwyo yn hapus i drafod eich gofynion unigol.
Neuadd Fwyta Lloyd Thomas
Ar gyfer swyddogaethau arbennig, megis priodasau, ciniawau blynyddol, partïon neu ddigwyddiadau Nadoligaidd, mae croeso i chi drafod eich gofynion â’n tîm arlwyo a fydd yn gallu teilwra bwydlen a gwasanaeth at eich gofynion.
Yr Hen Neuadd
Yr Hen Neuadd oedd y neuadd fwyta wreiddiol yng Ngholeg Dewi Sant a bellach mae’n lleoliad ysblennydd lle gall 72 o bobl eistedd, neu 100 o bobl gael bwffe. Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm arlwyo i drafod bwydlen neu wasanaeth penodol.
Y Neuadd Fwyta Breifat
Ar gyfer partïon a swyddogaethau llai, mae’r Neuadd Fwyta Breifat yn cynnig naws gartrefol a hamddenol. Gall hyd at 48 o bobl eistedd i gael cinio, ac mae bwydlenni penodol a gwasanaeth personol ar gael.
Bwydlenni
Nid ydym yn eich cyfyngu i fwydlenni neu becynnau gosod. Yn hytrach, rydym yn cynnig gwasanaeth personol sy’n gweddu i’ch gofynion unigol. Rydym yn barod iawn i drafod â chi'r opsiynau o ran bwydlenni, diodydd a gwasanaethau, gosodiad y byrddau, addurniadau’r byrddau a’r ystafell, neu unrhyw beth arall a allai roi sglein arbennig ar eich digwyddiad. Cewch rai bwydlenni o achlysuron eraill i chi gael amcan, ond peidiwch â theimlo mai dyma’r unig ddewisiadau sydd ar gael.
Y Newyddion Diweddaraf
Mae’r Gwasanaethau Arlwyo wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Aur yng nghynllun Gwobrau Hylendid Bwyd Cyngor Sir Ceredigion a Gwobr Aur yng nghynllun gwobrau Curiad Calon Ceredigion.
Mae'r wobr Curiad Calon yn arddel egwyddorion a meini prawf y wobr Heartbeat sy'n fawr ei bri dros Brydain ac mae'n cydnabod sefydliadau sy’n ymorol i sicrhau safonau o’r radd flaenaf o ran gofal i gwsmeriaid a rhagoriaeth arlwyo. Mae'r cynllun yn cydnabod arlwywyr sy'n rhagori ar y safonau sylfaenol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ar gyfer hylendid bwyd, ac sy’n cynnig ystod iachach o ddewisiadau bwyd.
Cyswllt
I gael sgwrs ynghylch cadw lle a'ch gofynion o ran arlwyo, cysylltwch â'n tîm arlwyo:
E-bost: catering@ydrindoddewisant.ac.uk
Ffôn: 01570 424944
Dydd Llun - Gwener 9:00yb - 4:30yp

