Y Gwasanaethau Arlwyo – Campws Llambed
Neuadd Fwyta Lloyd Thomas
“Dyma’r lle gorau yn y dre’ am ginio dydd Sul. Mae’r bwyd yn wych a’r holl gynnyrch yn ffres, a hynny am bris rhesymol dros ben”
Mae Neuadd Fwyta Lloyd Thomas yn rhan o Neuadd Breswyl Lloyd Thomas, ac yn arlwyo ar gyfer myfyrwyr, y cyhoedd, cynadleddau a digwyddiadau preifat.
Oriau agor Neuadd Fwyta Lloyd Thomas:
|
Dydd Mawrth |
12pm - 2.00pm |
Cinio Rhost Traddodiadol |
|
Dydd Gwener |
12pm - 2.00pm |
Prydau arbennig yn ôl themâu |
|
Dydd Sul |
12pm - 2.00pm |
Carferi |
Newidir y fwydlen bob dydd ac mae’n cynnwys cynnyrch lleol a lle bo modd gynhwysion a dyfir yn lleol. Cofiwch wylio am ddiwrnodau arbennig â themâu gan gynnwys Cinio Nadolig, neu brydau Tsieineaidd ac Eidalaidd.
Pris y carferi poblogaidd ar ddydd Sul yw £5.60 y pen, neu £10.20 y pâr, gyda gostyngiad i fyfyrwyr sydd â cherdyn NUS o £4.25 a phlant <10 mlwydd £3.55.
Mae lle i 375 o seddau yn Neuadd Fwyta Lloyd Thomas a gellir ei llogi ar gyfer digwyddiadau arbennig, ciniawau arbennig, aduniadau a phriodasau.

