Cynadleddau - Campws Llambed

Lleoliad Gwych i Gynadleddau a Chyfarfodydd

Mae campws Llambed yn cynnig ystod o gyfleusterau cynadledda a chyfarfod i grwpiau rhwng 6 a 450 o bobl, a’r cyfan ar ein campws sydd wedi'i dirlunio’n ddeniadol yng Nghanolbarth Cymru.

Gellir llogi ein hystafelloedd cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd diwrnod a digwyddiadau preswyl hwy gyda llety cysurus a phrydau gerllaw.

Mae ein lleoliad yn y Canolbarth yn golygu bod Llambed yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd i Gymru gyfan gan ei fod tua’r un pellter o’r Gogledd a’r De. Yn ogystal, mae Llambed yn agos i nifer o atyniadau twristiaeth a’r arfordir, ac felly mae’n hawdd cynnwys teithiau mewn rhaglen cynhadledd.

Yr Ystafelloedd Cyfarfod

Yr Hen Neuadd

Mae’r Hen Neuadd Hanesyddol, sef neuadd fwyta wreiddiol Coleg Dewi Sant, yn ystafell gyfarfod hyblyg ar gyfer hyd at 100 o bobl ac mae ganddi offer sain gweledol modern. Mae’r nenfwd cromennog a lluniau trawiadol o gyn-Brifathrawon y Brifysgol yn lleoliad unigryw ar gyfer unrhyw gyfarfod, derbyniad neu giniawau ffurfiol, lle gellir gweini ar gyfer hyd at 72 o westeion.

Neuadd Lloyd Thomas

Neuadd Thomas Hall yw’r lleoliad arlwyo mwyaf yng Ngheredigion a gall ddarparu seddau ar gyfer 375 o bobl ar gyfer priodasau, ciniawau ac achlysuron eraill. Mae gan y Neuadd ei bar preifat a’i lolfa ei hun ac ystafelloedd cyfarfod ar wahân o amgylch ymyl y brif neuadd.

Yr Ystafell Fwyta Breifat

Ar gyfer cyfarfodydd, ciniawau, gwleddoedd priodasau llai, mwy cartrefol, mae gan yr Ystafell Fwyta Breifat seddau ar gyfer hyd at 48 o bobl.

Yr Ystafell Fwrdd

Ar gyfer cyfarfodydd llai, gall yr Ystafell Fwrdd yn Adeilad rhestredig Dewi Sant ddarparu seddau ar gyfer hyd at 12 o gynrychiolwyr.  Mae offer sain gweledol yn yr Ystafell Fwrdd ar gyfer cyflwyniadau.

Neuadd y Celfyddydau

Neuadd y Celfyddydau yw’r neuadd gynadledda fwyaf sydd gennym ac ynddi le i hyd at 450 o gynadleddwyr eistedd. Ceir yno lwyfan wedi’i chodi a chyfarpar goleuo llawn, cyfleusterau cynadledda llawn a bwth recordio lle gellir ffilmio digwyddiadau’r gynhadledd. Ar gyfer achlysuron lle mae gofyn cael llawr arbennig megis disgos a phartïon, gellid tynnu’r holl seddau gan adael lle ar y llawr o ryw 400m2. Mae bar yn syth y tu allan i Neuadd y Celfyddydau.

Theatr Cliff Tucker

 Darlithfa a adeiladwyd yn benodol ywTheatr Cliff Tucker sydd â lle i 195 o gynadleddwyr eistedd. Mae gan y Theatr gyfleusterau cynadledda llawn a bwth recordio a chyfieithu.

Ystafelloedd Cyfarfod Eraill

Hefyd, mae gennym nifer o ystafelloedd cyfarfod llai eraill. Unwaith eto, mae gan y rhain gyfleusterau cyflwyno llawn.

Cyfleusterau Cynadledda

Mae gan bob un o’r ystafelloedd cyfarfod, ac eithrio Neuadd Lloyd Thomas a’r Neuadd Fwyta Breifat, gyfleusterau cynadledda llawn, gan gynnwys cyfrifiadur â chyswllt Rhyngrwyd a meddalwedd Pwerbwynt, a sgrin plasma neu daflunydd fideo a sgrin. Byddem yn barod iawn i ddarparu cyfarpar a gwasanaethau ychwanegol a gallwn ddarparu unrhyw beth, megis siartiau troi a phinnau ysgrifennu neu ffrydio’ch digwyddiad yn fyw ar y Rhyngrwyd, yn ogystal â chymorth technegol i sicrhau bod eich achlysur yn llwyddiant.  Mae croeso i chi drafod eich gofynion â ni ym mlaen llaw gan y gellir codi’n ychwanegol am y gwasanaethau hyn.

Parcio a Mynediad

Mae digon o le parcio yn rhad ac am ddim ar leoliad canolog ar gampws Llambed ac mae mynediad i gadeiriau olwyn ym mhob un o’r ystafelloedd.

Llety

Mae hefyd amrywiaeth o lety ar gael i gynadleddwyr ar y campws. Yn ystod y tymor, mae ystafelloedd en-suite ar gael yn Neuadd Lloyd Thomas (gan gynnwys rhai sydd â mynediad i’r anabl a nodweddion eraill megis desgiau sy’n amrywio o ran eu huchder.)  Y tu allan i’r tymor, mae ystafelloedd eraill ar gael, rhai yn en-suite ac eraill yn ystafelloedd sengl safonol a phob un ag ystafell ymolchi a chyfleusterau sydd wedi’u rhannu. Mae pob ystafell ar gampws Llambed yn agos i’r ystafelloedd cyfarfod a’r gwasanaethau arlwyo.

Arlwyo

Nid yw'r Gwasanaethau Arlwyo’n cyfyngu arnoch i bennu bwydlenni neu becynnau, ond maent yn hytrach yn cynnig gwasanaeth personol a llawn sy’n gweddu i'ch gofynion unigol. Maent yn barod iawn i drafod eich gofynion o ran arlwyo megis bwydlenni, diodydd ac opsiynau o ran gwasanaethau, neu unrhyw beth arall y mae arnoch ei angen er mwyn gwneud eich diwrnod yn achlysur i'w gofio. Os bydd eich cyfarfod yn cynnwys taith y tu allan i Lambed, gellir darparu brechdanau.

Twristiaeth

Mae campws Llambed ynghanol y dref.  Mae Llanbedr Pont Steffan wedi’i leoli’n gyfleus o agos at atyniadau twristaidd megis Llanerchaeron (sy’n Eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Mwynfeydd Aur Dolaucothi, Rhaeadrau Cenarth, Abaty Ystrad Fflur, a Llwybr Dylan Thomas. Mae hefyd ddigonedd o gyfleoedd i wneud gweithgareddau cyffredinol yn yr awyr agored megis cerdded, marchogaeth, golff a beicio mynydd. Bydd mwy na digon at ddant pob garddwr brwd yng Ngerddi Aberglasne, Gradd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a llawer o erddi llai eraill sydd gerllaw ac yn agored i’r cyhoedd.

Cyswllt

I gael sgwrs ynghylch cadw lle a'ch gofynion o ran arlwyo, cysylltwch â'r tîm cynadleddau:
Ffôn: 01570 424826  (Dydd Llun – dydd Gwener, 9:00yb - 4:30yp)
E-bost: events@ydrindoddewisant.ac.uk