Gwasanaethau Priodas - Campws Llambed

Llongyfarchiadau

Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich dyweddïad a dymuno bywyd hir a hapus i chi’ch dau gyda’ch gilydd. Mae Gwasanaethau Arlwyo yn arbenigo mewn gwleddoedd priodas ac mae ganddynt dîm proffesiynol o staff sydd â’r arbenigedd i’ch helpu i drefnu eich diwrnod arbennig.

Mae’r Hen Neuadd yn lleoliad ysblennydd ar gyfer seremonïau priodasau sifil a gellir eu cadw, ynghyd ag ystafelloedd gwahanol eu maint, ar gyfer eich gwledd briodas neu'ch parti priodas. Ble bynnag y dewiswch ddiddanu'ch gwesteion, rydych yn siŵr o gael gwasanaeth cynhwysfawr ac unigol sy’n rhoi tawelwch meddwl i chi er mwyn i chi allu gwneud yn fawr o’r diwrnod arbennig.

Lleoliadau

Yr Hen Neuadd

Mae'r Hen Neuadd hanesyddol, sef ystafell fwyta wreiddiol Coleg Dewi Sant, wedi’i thrwyddedu ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaeth sifil ac mae lle am hyd at 100 o westeion. Mae’r nenfwd cromennog a’r lluniau trawiadol o gyn-Brifathrawon y Brifysgol yn lleoliad unigryw ar gyfer eich seremoni  ac ynghyd â’r Cloestrau,  y Cwadrangl a’r ffynnon yn union y tu allan, maent yn gyfleoedd gwych ar gyfer lluniau. Ar gyfer gwleddoedd priodas a chiniawau, gall yr Hen Neuadd ddarparu seddau ar gyfer hyd at 72 o westeion.

Neuadd Lloyd Thomas yw’r lleoliad arlwyo mwyaf yng Ngheredigion a gall ddarparu seddau ar gyfer 375 o bobl ar gyfer priodasau, ciniawau ac achlysuron eraill. Mae gan y Neuadd ei bar preifat a'i lolfa ei hun, ynghyd â digon o leoedd parcio gerllaw.

Yr Ystafell Fwyta Breifat

Ar gyfer cyfarfodydd, ciniawau, gwleddoedd priodasau llai, mwy cartrefol, mae gan yr Ystafell Fwyta Breifat seddau ar gyfer hyd at 48 o bobl.

Undeb y Myfyrwyr

Ar gyfer achlysuron gyda’r nos, gellir llogi clwb Undeb y Myfyrwyr ar gyfer parti preifat.  Mae gan yr ystafell fwth DJ integredig a llawr dawnsio, a bar helaeth.

Arlwyo

Nid yw ein Gwasanaethau Arlwyo yn eich cyfyngu i fwydlenni na phecynnau gosodedig, ond maent yn cynnig yn hytrach wasanaeth personol sy’n gweddu i’ch gofynion unigol. Maent yn barod iawn i drafod yr opsiynau o ran bwydlen, diodydd, trefn y byrddau ac addurn y byrddau a’r ystafell, neu unrhyw beth arall y bydd arnoch ei angen i wneud eich diwrnod yn achlysur i'w gofio.

Blodau a Nwyddau Papur ar gyfer y Briodas

Gall ein Gwasanaethau Arlwyo eich rhoi chi mewn cysylltiad, a’ch helpu i gysylltu, â ffotograffwyr, gwerthwyr blodau lleol a Gwasanaethau Argraffu’r Brifysgol i’ch helpu chi i gaboli’n derfynol eich seremoni a’ch partïon.

Cysylltu

I drafod sut i gadw lle a’ch gofynion arlwyo, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm priodasau: 
Ffôn: 01570 424826
(Dydd Llun – dydd Gwener, 9:00yb - 4:30pm)
E-bost: events@ydrindoddewisant.ac.uk