Anableddau ac Anghenion Ychwanegol - Campws Caerfyrddin
Cymorth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Enwau cyswllt ar gyfer ymholiadau:
Delyth Lewis
Gweinyddydd Anabledd
Gwasanaethau Myfyrwyr
Ffôn: 01267 676947
E-bost: d.lewis@ydrindoddewisant.ac.uk
Helen Davies
Gweinyddydd Anabledd
Gwasanaethau Myfyrwyr
Ffôn: 01267 676822
E-bost: h.e.davies@ydrindoddewisant.ac.uk
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn anelu at sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i’n cyrsiau addysgol, a sicrhau triniaeth deg a chyfartal i’n holl fyfyrwyr. Ceisiwn, felly, ddileu unrhyw rwystrau sy’n deillio o anabledd, salwch neu unrhyw angen ychwanegol arall. Ein nod yw rhoi cyfle cyfartal i’r holl fyfyrwyr, yn cynnwys y rhai ag anableddau, er mwyn iddynt brofi ein hystod eang o brofiadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Ceisiwn – drwy addasiadau rhesymol – gwrdd ag anghenion a goresgyn anawsterau, fel nad yw’r rhain bellach yn rhwystr i ddarpar fyfyrwyr na myfyrwyr presennol.
Polisi Derbyn
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Ni fydd datgan anabledd yn golygu eich bod o dan anfantais mewn unrhyw ffordd yn ystod y broses ymgeisio. Anogir myfyrwyr ag anabledd datganedig i ymweld â’r Brifysgol cyn ymgeisio i weld pa gyfleusterau sydd ar gael. Mae Delyth Lewis, Helen Davies a Dai Rogers ar gael i drafod anghenion unigol, yn enwedig unrhyw drefniadau penodol sydd eu hangen o ran mynediad, cymorth dysgu, cymorth astudio, darlithiau, lleoliadau, asesiadau ac arholiadau. Rydym yn ystyried y canllawiau ar gyfer arferion gorau a ddarperir gan SKILL, BDA, RNIB, RNID a Chyngor y Byddar Cymru.
Darpariaeth Bresennol
Rydym yn wynebu rhai cyfyngiadau o ran mynediad, h.y. yn sgil yr hen adeiladau traddodiadol. Mae pob adeilad newydd, gan gynnwys y Ganolfan Adnoddau Addysgu a’r Llyfrgell, wedi cael eu hadeiladu gan roi ystyriaeth i anghenion rheini ag anabledd. Mae gan y pedair neuadd breswyl fwyaf newydd ystafelloedd sydd wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr ag anghenion symudedd. Lle bynnag y bo hynny’n ymarferol, mae’r adeiladau hŷn wedi cael eu haddasu i’w gwneud yn haws cael mynediad iddynt. Fe welwch hefyd fod digon o lwybrau priodol ar hyd a lled y campws, gyda mannau parcio wedi’u neilltuo ar gyfer pobl ag anghenion yn gysylltiedig â symudedd.
Mae’r uned hon wedi’i lleoli’n gyfleus yng Nghanolfan Myddfai, sydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Rydym yn darparu gwasanaeth sgrinio rhad ac am ddim i ganfod unrhyw gyflwr dyslecsig, a darparu cymorth tiwtor arbenigol i unigolion. Rydym hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr anabl i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) i brynu offer arbenigol. Mae cymhorthion darllen ychwanegol i bobl â nam ar y golwg ar gael yn y Ganolfan Adnoddau Addysgu a’r Llyfrgell. Gall y myfyrwyr ‘fenthyca’r' eitemau hyn yn yr un modd ag y byddent yn benthyca llyfr neu gymorth dysgu arall.
Rydym hefyd yn eich cynorthwyo a’ch annog i gysylltu â’ch tiwtoriaid a/neu Diwtor Personol ynglŷn â derbyn taflenni nodiadau cyn darlithiau, y defnydd o recordydd tâp, systemau dolen anwytho ar gyfer anawsterau clywed, astudiaeth hyblyg neu fylchog ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl, lleoliadau mewn cyd-destunau hygyrch, polisïau arholiad hyblyg, ac ati.
Nam Gweledol
Os ydych yn dioddef o nam gweledol o unrhyw fath, mae gan y Brifysgol fynediad at wasanaethau Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe. Fel rhan o Bartneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru sydd yn cael ei ariannu gan CCAUC, mae'r Ganolfan yn medru darparu testunau ar gyfer myfyrwyr â nam gweledol yn y ffurf sydd fwyaf addas ar eu cyfer - tâp sain, Braille, print mawr, ffurf gyffyrddol neu electronig.
Cyfrinachedd
Ystyrir bod yr holl ddeunydd sy’n ymwneud ag anghenion ychwanegol yn gyfrinachol oni bai bod y myfyriwr yn dymuno iddo gael ei ddatgelu neu’n arwyddo datganiad yn caniatáu hynny, er enghraifft i ddarlithwyr, staff cymorth neu arholwyr.
Cymorth Ariannol
Gallwn roi cyngor ar fudd-daliadau, grantiau, bwrsarïau a lwfansau all fod ar gael i fyfyrwyr ag anghenion penodol neu ychwanegol. Yn ychwanegol at y LMA a’r Gronfa Ariannol wrth Gefn, mae’n bosibl y gallwn fod ar gael i gynorthwyo myfyrwyr na all y LMA ddiwallu eu hanghenion. Cysylltwch â Derbynfa’r uned Gwasanaethau Myfyrwyr yng Nghanolfan Myddfai am ragor o wybodaeth.
Anableddau Cudd
Anogwn fyfyrwyr ag anableddau cudd, megis epilepsi, diabetes, ME ac ati i drafod eu hanghenion â Gweinyddydd Anabledd. Mae anableddau cudd yn aml yn cael cymaint o effaith ag anableddau mwy amlwg. Rydym ni yma i drafod yr anawsterau ac i helpu dod o hyd i atebion.
Yn aml mae angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl ac mae’r Brifysgol yn darparu gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr proffesiynol yn rhad ac am ddim i’r holl fyfyrwyr.
Parcio
Mae mannau parciau penodol ar gael ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol penodol, sy’n eich galluogi i barcio eich car yn agos at eich man astudio.
Monitro’r gwasanaethau
Mae eich barn yn bwysig i ni. Rydym yn casglu gwybodaeth yn barhaus gan ein myfyrwyr presennol am eu barn am ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau. Mae Pwyllgor Gwarantu Safonau ar gael i fonitro’r sefyllfa a chyfrannu at y cynllunio i’r dyfodol, ac yn ogystal mae trefn gwyno sefydledig. Gellir cael y manylion llawn am hyn yn y llyfryn ‘Cymorth i Oroesi’ a gyhoeddir yn flynyddol ac sydd ar gael o’r uned Gwasanaethau Myfyrwyr.
Cynlluniau i’r dyfodol - ar waith
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Ymhlith yr enghreifftiau o ddatblygiadau sydd ar ddigwydd mae:
- Ehangu cymorth tiwtor i’r rhai sydd ag anawsterau dysgu penodol
- Gwella mynediad ar draws y campws ar gyfer y rhai sydd â phroblemau symudedd, e.e. rampiau ychwanegol, llwybrau, arwyddion ac ati
- Ehangu’r technolegau arbenigol sydd ar gael, ee dolenni clywed, meddalwedd ar gyfer anawsterau dysgu penodol
Estynnir gwahoddiad cynnes i fyfyrwyr ag unrhyw anableddau neu anghenion ychwanegol i gysylltu â staff er mwyn datrys unrhyw bryderon.


