Cefnogaeth i Fyfyrwyr Sydd Wedi Gadael Gofal

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymrwymedig i ddarparu gofal o’r safon uchaf i’w myfyrwyr. Os ydych chi yn fyfyriwr sydd yn mynd i Addysg Uwch o ofal yna fe fydd darpariaeth a chefnogaeth ar eich cyfer. Fe fydd y gefnogaeth yma ar gael tra eich bod yn gwneud eich penderfyniadau ynglŷn â pha sefydliad i fynd iddo, yn parhau drwy’r broses ymgeisio ac yna ymlaen i gychwyn eich cwrs.
Mae cymorth a gwybodaeth hefyd ar gael os ydych yn gofalu neu yn cynghori person sydd yn dod o ofal. Yr ydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi derbyn Marc Ansawdd Buttle UK fel cydnabyddiaeth o'n ymrwymiad i adawyr gofal o fewn addysg uwch.
Fel myfyriwr sydd yn dod o ofal, neu fel person sydd yn cynghori pobol sydd yn dod o ofal, eich person cyswllt fydd Delyth Lewis (Rhif ffon 01267 676947 neu e-bost d.lewis@ydrindoddewisant.ac.uk). Mae Delyth yn gweithio fel rhan o’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac fe fydd ganddi wybodaeth a chyngor am pob elfen o ‘r ddarpariaeth sydd gan y Brifysgol i chi.
Yn y Brifysgol fe fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu cynnig:
- Arweiniad a chymorth gan ein Swyddog Gyrfaoedd am y systemau ymgeisio a’r broses ymgeisio.
- Cefnogaeth mentor i’ch helpu gyda wythnosau cyntaf y tymor.
- Cymorth ariannol penodol i bobl sydd yn dod o ofal drwy fwrsarïau’r Brifysgol.
- Adran Gwasanaethau Myfyrwyr integredig ac effeithiol sydd yn cynnig cefnogaeth ariannol a gwybodaeth ar lety, gofynion arbennig a chwnsela.
- Cyfarfodydd rheolaidd rhwng ein person cyswllt, Delyth Lewis, a’r myfyrwyr er mwyn adnabod unrhyw ofynion penodol a chadw cysylltiad gyda adrannau eraill y Brifysgol.
- Cymorth i drefnu eich llety yn ystod y tymor ac hefyd yn ystod gwyliau’r Brifysgol os oes angen.
- Safon uchel o gyfrinachedd i fyfyrwyr sydd yn dod gefndir gofal.
Bellach mae cyfle i chi nodi ar eich taflen UCAS os ydych yn dod o gefndir gofal. Neu hefyd fe all eich cyswllt Gwasanaethau Cymdeithasol rhoi gwybod i ni. Mae hyn yn meddwl y bydd cefnogaeth mewn lle i chi o adeg cynnar iawn.
Rhai safleoedd we perthnasol
www.buttleuk.org/pages/for-care-leavers
www.voicesfromcarecymru.org.uk
www.thewhocarestrust.org.uk
Cysylltu
Delyth Lewis
Rhif ffon: 01267 676947
E-bost: d.lewis@ydrindoddewisant.ac.uk


