Cymorth Dysgu (Anawsterau Dysgu Penodol)

Myfyrwyr Cynigir help i unrhyw fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia, dyspracsia, ADD, Aspergers gyda cheisiadau am Lwfans Myfyrwyr Anabl, tiwtora un i un a chymorth, cyngor ac arweiniad priodol ar gonsesiynau ar gyfer arholiadau. Cynigir help mewn llawer o feysydd, megis:

  • sut i wella’ch aseiniadau
  • adolygu’n effeithiol ar gyfer arholiadau
  • trefnu amser, eich hun a gwaith

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Clare Scott
Ffôn: 01267 676830
E-bost: c.scott@ydrindoddewisant.ac.uk

Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill : gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr â dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill. Gallwn wneud trefniadau ar gyfer:

  • Darparu gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol
  • Sgrinio cychwynnol
  • Asesu
  • Gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
  • Cefnogaeth gynnar a phriodol gan diwtor
  • Trafod gyda staff y Brifysgol
  • Consesiynau lle bo angen
  • Gwell hygyrchedd i gyfleusterau’r Brifysgol e.e. benthyciadau llyfrgell estynedig

Os dynodwyd eisoes fod gennych ddyslecsia neu Anhawster Dysgu Penodol arall, byddwn yn eich cynghori i ddilyn y camau canlynol cyn dechrau eich cwrs prifysgol, er mwyn osgoi unrhyw oedi dianghenraid wrth ddarparu cefnogaeth dechnegol a thiwtorial ar eich cyfer:

Cam 1. Gwnewch yn siŵr fod eich asesiad cyfredol yn llai 18 mis oed. Os yw’n hŷn na hynny, gofynnwch i’ch ysgol neu’ch coleg drefnu diweddariad.

Cam 2. Cysylltwch â’ch AALl i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a gofynnwch iddynt drefnu Asesiad Anghenion ar eich cyfer cyn i chi ddechrau yn y brifysgol.

Cam 3. Dewch i’n gweld yn y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr, neu ffoniwch ni, unwaith y byddwch wedi gwneud y penderfyniad yn bendant i ddod i’r Brifysgol, neu pan fyddwch yn cyrraedd ar ddechrau eich cwrs. Dewch â’ch Asesiad Anghenion gyda chi.

Byddwn wedyn yn sicrhau bod popeth sydd ei angen arnoch yn cael ei drefnu ar eich cyfer mor fuan ag sy’n bosibl.

Cysylltwch â ni (Helen Davies / Clare Scott) os oes gennych unrhyw gwestiynau/pryderon ar: 01267 676 947 / 01267 676822

Edrychwn ymlaen at eich cwrdd.