Cymorth i Oroesi - Campws Caerfyrddin
Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Os ydych yn fyfyriwr am y tro cyntaf, neu'n newydd i'r Brifysgol o sefydliad arall, diben y llawlyfr hwn yw rhoi gwybod i chi am y gwasanaethau fydd ar gael yn ystod eich blynyddoedd o astudio yma. Rydym ni yn y Brifysgol yn ymfalchio yn ein traddodiad o ddarparu cefnogaeth anffurfiol gyfeillgar, ond yn ogystal mae gennym amrywiaeth o wasanaethau ffurfiol ar gael i'r holl fyfyrwyr. Mae'r llawlyfr hwn yn darparu gwybodaeth am y nifer o wasanaethau sydd ar gael.


