Cynllun Hepgor Ffioedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar Gyfer Myfyrwyr Israddedig rhan-amser - Campws Caerfyrddin
Mae’r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio rhwng 10 a 110 credyd ac yn cwrdd ag o leiaf un o’r amodau a nodir isod:
- Mae eich teulu’n derbyn un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceiswyr Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Budd-dal tai
- Budd-dal y Dreth Gyngor
- Eich unig incwm fel ‘teulu’ yw budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau
- Mae eich ‘teulu’ yn derbyn Credyd Treth Gwaith. Dylech nodi, o Ebrill 2003, fod y Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio wedi cael ei ddisodli gan y Credyd Treth Plant a’r Credyd Treth Gwaith. Dim ond y myfyrwyr hynny sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith sy’n gymwys i gael eu ffioedd wedi’u hepgor. Mae pawb sy’n ateb y maen prawf hwn yn gymwys. Fodd bynnag nid yw’r sawl sy’n derbyn Credyd Treth Plant yn unig yn gymwys i gael eu ffioedd wedi’u hepgor.
Mae'r myfyriwr yn derbyn un o'r canlynol:
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Byw Anabledd
- Lwfans Gweini
- Budd-dal Anabledd
- Lwfans Gofalwyr
Sylwer bod y diffiniad o'r 'teulu' fel a ganlyn:-
- Myfyriwr hŷn sengl, neu
- Pâr priod neu ddibriod, neu
- Cwpl mewn partneriaeth sifil, neu
- Pâr priod neu ddibriod, neu cwpl mewn partneriaeth sifil â phlant yn dibynnu arnynt, neu
- Rhiant sengl â phlant yn dibynnu arno/arni
Rhaid i fyfyrwyr byw yng Nghymru i fanteisio o'r Cynllun Hepgor Ffioedd
Noder bod CCAUC wedi gosod uchafswm o £1200 fel y swm mae modd hawlio ar gyfer unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd
Ffurflen Gais
Cynllun Hepgor Ffioedd (pdf)
Manylion Pellach
Meriel Davies
Ffôn: 01267 676659
E-bost: m.davies@ydrindoddewisant.ac.uk


