ESOL (Cymorth gyda Saesneg ar Gyfer Myfyrwyr Tramor) - Campws Caerfyrddin

Myfyrwyr Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu dosbarthiadau un i un a grwpiau bychain sy’n cynnig cymorth gyda’r iaith Saesneg. Mae’r dosbarthiadau hyn yn eich cynorthwyo i wella’ch Saesneg, yn enwedig ar bapur. Rydym yn cynllunio pob dosbarth yn ôl eich anghenion.

Mae’r meysydd y byddwn yn delio â nhw yn cynnwys:

  • Arddull ysgrifennu academaidd
  • Strwythuro’ch aseiniadau
  • Gramadeg
  • Sut i brawf ddarllen eich gwaith eich hunan
  • Paragraffau
  • Cyfeirio
  • Rheoli amser
  • Ymchwil
  • Sillafu
  • Atalnodi

Er mwyn trefnu apwyntiad, anfonwch e-bost i'r Swyddfa Ryngwladol, international@ydrindoddewisant.ac.uk neu ffoniwch 01267 676656