Gwasanaeth Cwnsela - Campws Caerfyrddin

  • Beth yw Cwnsela?
  • Gwneud Apwyntiad
  • Cwnsela ar gyfer Myfyrwyr
  • Ynglyn â’r Cwnselwyr a'r Gwasanaeth
  • Ffynonellau Cymorth Eraill

Beth yw Cwnsela?

Myfyrwyr Mae cwnsela’n broses y cewch ei defnyddio i archwilio unrhyw achosion pryder. Gallai’r rhain gynnwys anawsterau presennol, trawma o’r gorffennol neu bryder am y dyfodol.

Nid yw cwnsela yn cynnwys rhoi cyngor i chi. Nod y Cwnselydd yw gwrando heb farnu i’ch galluogi i siarad am eich teimladau a'ch profiadau. Mae’n broses o gydweithio sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Mae’r cwnsela’n symud ar eich cyflymdra chi ac yn ôl eich anghenion; efallai mai sesiwn unigol fydd hyn, neu gyfres fer o sesiynau, neu gymorth dros gyfnod hirach.

Mae cyfrinachedd o’r pwys mwyaf. Mae’ch Cwnselydd yn cadw at fframwaith moesegol a dim ond mewn amgylchiadau prin iawn (perygl o niwed i chi neu rywun arall) y bydd rhaid rhannu gwybodaeth, o bosib, ag eraill. Yn unol â’r gofynion moesegol, mae pob cwnselydd yn cwrdd yn rheolaidd ag ymgynghorydd allanol. Ni ddefnyddir enwau o gwbl, a'r nod yw gwella'r cwnsela a diogelu’ch lles chi fel cleient.

Gwneud Apwyntiad

I drefnu apwyntiad, galwch wrth Dderbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr os gwelwch yn dda neu ffoniwch estyniad 6830 (01267 676830 os yn galw o’r tu allan i’r Brifysgol).

Mae apwyntiadau ar gael drwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r rhan fwyaf o’r apwyntiadau wedi eu trefnu ymlaen llaw, ond nod y Cwnselwyr yw gwneud yn siŵr bod ychydig o “apwyntiadau brys” ar gael bob wythnos rhag ofn bod eisiau cymorth brys ar fyfyriwr.

Ar ôl cwrdd â’ch Cwnselydd am y tro cyntaf, gofynnir i chi gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cwnsela drwy gwblhau ffurflen gofrestru fer a gedwir gan y Cwnselydd.

Cewch ddewis cael eich cwnsela drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r cwnsela ar sail tymor byr fel arfer, ond ambell waith gall fod eisiau cymorth ar unigolyn dros gyfnod hirach o amser.

Cwnsela ar gyfer Myfyrwyr

Mae’r Cwnselwyr yn gweithio gyda myfyrwyr unigol ar unrhyw bwnc neu ystod o bryderon. Mae’n wir nad oes unrhyw faterion sy’n rhy fach nac yn rhy fawr i’w trafod gyda Chwnselydd.

Peth dewr yw cydnabod eich bod yn cael anawsterau a chwilio am gymorth. Cydnabyddir hyn gan y Cwnselwyr sy’n ymdrechu i greu amgylchedd croesawgar lle cewch archwilio’ch meddyliau a'ch teimladau.

Os nad ydych yn siŵr a yw cael eich cwnsela yn iawn i chi (neu yn iawn i chi ar hyn o bryd), cewch gwrdd â Chwnselydd am sesiwn gychwynnol i drafod eich anghenion.

Ynglŷn â’r Cwnselwyr a’r Gwasanaeth

Jean Harris a Myfanwy Williams yw’r Cwnselwyr. Mae Jean Harris ar gael o ddydd Llun i ddydd Mercher, ac mae Myfanwy Williams ar gael ar brynhawn dydd Mercher, a thrwy'r dydd, dydd Iau a dydd Gwener. Mae Myfanwy Williams yn cynnig gwasanaeth cwnsela drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Cwnsela unigol yw prif ran eu swyddogaeth o bell ffordd. Yn amodol ar y galw, fe gynigir rhai sesiynau ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr ac mae’r Cwnselwyr hefyd yn darparu sesiynau datblygiad staff ambell waith.

Mae’r Cwnselwyr yn croesawu adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwella’r Gwasanaeth, ac mae holiadur gwerthuso ar gael o’r Cwnselwyr neu o Dderbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr.

Ffynonellau Cymorth Eraill

O fewn y Brifysgol, gall eich Tiwtor Personol hefyd gynnig cymorth bugeiliol. Cewch hefyd siarad â Chaplan y Brifysgol. (Ffoniwch 01267 676607 neu 07946 036936).

Os oes angen arnoch chi siarad â rhywun y tu allan i oriau arferol y Brifysgol, cewch gysylltu â'r sefydliadau canlynol:-

Undeb y Myfyrwyr

Gwefan: www.tsdsu.co.uk

Samaritans

Ffôn: 08457 90 90 90 ddydd neu nos, 7 diwrnod yr wythnos.
E-bost: jo@samaritans.org
Llinell neges destun: 07725 909090

Cymorth i Fenywod

Caerfyrddin Ffôn: (01267) 238410 or (01267) 234725
Hwlffordd Ffôn: (01437) 769564
Llanelli Ffôn: (01554) 741212
Abertawe Ffôn: (01792) 644683

Tîm Cyffuriau Cymunedol

Ffôn: (01267) 223483

Llinell Gymorth Genedlaethol Cyffuriau

Ffôn: 0800 77 66 00

Alcohol - Prism

Ffôn: (01267) 231634

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Caerfyrddin

Ffôn: (01267) 236017

Saneline (Gwasanaeth Cynghori Plant a Theuluoedd)

Ffôn: 0845 767 8000

C.A.L.L : (Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol)

Ffôn: 0800 132 737
Minicom: 0800 032 0956

Rhai Gwefannau Defnyddiol

Undeb y Myfyrwyr, Coleg Prifysgol y Drindod
Y Samariaid
Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl
Myfyrwyr yn erbyn Iselder
Cymdeithas Genedlaethol Iechyd Meddwl
Undeb Genedlaethol Myfyrwyr
Gweithredu er Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru

Gall myfyrwyr sy’n byw ar y campws gysylltu ag un o’r Wardeniaid Neuadd. Gallwch weld eu manylion cyswllt ar bosteri o gwmpas y Brifysgol ac yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Os bydd arnoch angen i gysylltu ag aelod o’r staff y tu allan i oriau, cysylltwch â Thŷ’r Porthor ar 01267 676738 neu’r Ffôn Symudol (argyfwng yn unig) 07767 842 738 a bydd y Porthor wedyn yn cysylltu ag aelod o’r staff.

Os bydd arnoch angen cymorth / cyngor ar faterion anableddau, cysylltwch â:

Delyth Rees ar 01267 676947
Helen Davies ar 01267 676822
E-bost: anabledd@ydrindoddewisant.ac.uk

Os bydd arnoch angen chi siarad â rhywun y tu allan i oriau arferol y Brifysgol, cysylltwch â Warden Neuadd, Porthor neu Undeb y Myfyrwyr.

Abbie Hurrell, Llywydd, Undeb y Myfyrwyr
Ffôn: 01267 676877
E-bost: supresident@dydrindoddewisant.ac.uk

Mae Caplan y Brifysgol, Ainsley Griffiths, hefyd ar gael i gynnig cymorth.
Ffôn: 01267 676607
E-bost: ainsley.griffiths@ydrindoddewisant.ac.uk