Gwasanaeth Gyrfaoedd - Campws Caerfyrddin

Nesta and Wilbur Ymgynghorydd Gyrfaoedd

Nesta James
Ffôn: 01267 676829
E-bost: n.james@ydrindoddewisant.ac.uk

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i holl fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’i brif bwrpas yw helpu myfyrwyr unigol i adnabod eu nodau o ran gyrfa wrth ymadael â’r Brifysgol, a darparu cymorth a chefnogaeth briodol i’w galluogi i weithredu’r nodau hyn.

Mae Nesta ar gael drwy’r flwyddyn ar gyfer apwyntiadau i drafod:

  • Diddordebau a sgiliau yng nghyswllt yr amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaoedd sydd ar gael
  • Ffurflenni cais a CVs
  • Technegau cyfweliadau
  • Cyngor gyrfaoedd cyffredinol ynghylch newid cyrsiau a dewisiadau o ran astudio.

Er mwyn trefnu apwyntiad i weld Nesta, ffoniwch 01267 676830.

Os na allwch wneud apwyntiad yn ystod oriau swyddfa mae croeso ichi anfon e-bost at Nesta yn n.james@ydrindoddewisant.ac.uk

Cymorth gyda Chwiliad Swyddi a Cheisiadau

Dod o Hyd i Gwaith Rhan Amser Campws Caerfyrddin

Canllaw i Brofiad Gwaith Campws Caerfyrddin

Llythyr Eglurhaol

Ysgrifennu CV

GO Wales

Go Wales 

Am ragor o wybodaeth am leoliadau a blas ar waith GO Wales.

  • Blas ar Waith
  • Lleoliadau Gwaith
  • Academi Raddedigion
  • Cronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion

Siop Swyddi

Nesta and WilburMae cysylltiadau agos gennym â’r ganolfan waith lleol a chwmnïau lleol.

Mae gwybodaeth gennym am ystod o swyddi lleol sydd ar gael.

Bydd swyddi'n cael eu hysbysebu ar yr hysbysfwrdd yn adeilad Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim i’r holl fyfyrwyr, israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae rhestr o swyddi gwag cyfredol nawr ar gael ar-lein:

Swyddi cenedlaethol a rhyngwladol. Bâs data Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnwys swyddi parhaol, gwyliau, blwyddyn allan,a chyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal â swyddi byr - dymor yn yr ardal leol. Canllawiau Hawdd ar Gyfer Cofrestru 

E- gyngor gyrfaoedd : Mae modd derbyn cyngor a gwybodaeth gyrfaoedd drwy e-bost.

Adnoddau'r We

PebblePad

Prospects 

Prospects.ac.uk - Gwybodaeth am yrfaoedd, astudiaeth ôl-radd a llawer mwy

Raddedigion gan Prospects

Online Careers Management System

Fideo 3J

This text will be replaced

04.08.2011

Disgrifiad

Cynllun Datblygiad Proffesiynol: Paratoi ar gyfer byd gwaith.