Gwasanaeth Gyrfaoedd - Campws Caerfyrddin

GO Wales

ESF Llywodraeth Cynulliad Cymru - Ewrop & Chymru : Buddsoddi yn eich Dyfodol. Cronfa Cymdeithasol EwropMae rhaglen Go Wales yn cael ei chyllido gan Gronfa Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall GO Waleseich helpu chi i fod ar y blaen ym marchnad swyddi cystadleuol heddiw.

Mae gennym ni ystod eang o gyfleoedd profiad gwaith a swyddi yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch profiad gwaith a datblygu eich gyrfa.

Blas ar Waith

Go Wales

Nid yw profiad gwaith â thâl bob amser yn bosibl, felly rydym yn trefnu cyfnodau o brofiad gwaith heb dâl ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sy’n ceisio ennill ychydig o brofiad mewn swydd, diwydiant neu yrfa benodol. Mae nhw’n gyfan gwbl bwrpasol, wedi’u trefnu i fod yn addas i chi a’ch amserlen. Mae Blas ar Waith yn para rhwng 1 -10 diwrnod.

Cyflawnodd Alex Brady, un o fyfyrwyr Cyfryngau'r Brifysgol blas ar waith GO Wales gyda Parthian i gael profiad yn y diwydiant cyhoeddi.

Lleoliadau Gwaith

Alex Brady

Dyma’r ffeithiau sylfaenol ynglŷn â’n cynllun lleoli:

  • Fel rheol maent am gyfnod o 10 wythnos ac yn amser llawn.
  • Telir o leiaf £250 yr wythnos i’r rheiny ar leoliadau.
  • Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau drwy weithio ar brosiect busnes go iawn i gyflogwr lleol.
  • Cyflawnir cymhwyster yn seiliedig yn y gwaith a ddyluniwyd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau busnes a phersonol.
  • Gallwch ychwanegu ychydig o brofiad o ansawdd at eich CV.
  • Mae llawer o’r lleoliadau yn arwain at fwy o waith gyda’r cwmni sy’n cyflogi.

Academi Raddedigion

Mae Academi Raddedigion GO Wales yn rhaglen hyfforddi chwe wythnos newydd wedi’i chynllunio i roi i raddedigion sy’n byw yng Nghymru, y sgiliau cyflogadwyedd allweddol hynny sydd yn gynyddol eu hangen ar gyflogwyr. Am fwy o fanylion ewch i http://www.gowales.co.uk/cy/graduate/graduateAcademy/index.html

Cronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion

MyfyrwyrAr gael i raddedigion sy’n gweithio mewn busnesau bach yng Nghymru. Gall SME* yng Nghymru gael mynediad at Gronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion GO Wales i helpu i gefnogi costau hyfforddi eu staff ar lefel raddedig.

Mae’r gronfa’n helpu graddedigion i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach, ac ar yr un pryd, helpu cyflogwyr i lenwi bylchau sgiliau yn eu sefydliad.

Mae hyd at £1,500 y person ar gael ar gyfer hyfforddiant cymwys.

Os ydych chi’n gweithio mewn SME yng Nghymru, pam na wnewch chi ddod â’r gronfa hon at sylw eich cyflogwr?

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â tîm GO Wales yn Gwasanaethau Myfyrwyr.

Ffôn: 01267 676830

E-bost: gowales@ydrindoddewisant.ac.uk

MyfyrwyrMae Go Wales yn falch i gefnogi Tîm Rygbi'r Brifysgol eleni.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am swyddi gwag ar gronfa ddata GO Wales www.gowales.co.uk

 Gwasanaeth Gyrfaoedd

 

 

Dilynwch GO Wales ar Facebook http://www.facebook.com/gowales a Twitter http://www.twitter.com/gowales er mwyn bod gyda’r cyntaf i glywed am leoliadau gwaith newydd a chyfleoedd gwaith i fyfyrwyr a graddedigion yng Nghymru.