Academi’r Graddedigion - Campws Llambed
Yn eich helpu i symud ymlaen, profi eich bod yn gyflogadwy a chwrdd â’r her o sicrhau swydd ar lefel graddedigion Hyfforddiant rhad ac am ddim i raddedigion sy'n byw yng Nghymru – gwerth hyd at £2500 Cwrs preswyl ar gampws Llambed ynghyd â phrofiad gwaith ymarferol mewn lleoliad o'ch dewis yng Nghymru - 6 wythnos i gyd Ffocws masnachol – gallwch ennill sgiliau arwain a rheoli sylfaenol a gwybodaeth am amgylcheddau gwaith go iawn Cyfle i gynyddu'ch hyder a’ch hunan-barch a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i farchnata’ch hun yn llawn i gyflogwyr Amgylchedd hyfforddi proffesiynol a threfnus Cefnogaeth gan Ymgynghorwyr a Thiwtoriaid â phrofiad helaeth ym myd diwydiant Cymhwyster a ddyfernir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) – a gydnabyddir gan gyflogwyr ar draws y byd
Dyddiadau rhaglenni 2011: I raddedigion cyfredol:28 Chwefror (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Ionawr)
9 Mai (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 18 Mawrth)
I fyfyrwyr y flwyddyn olaf a graddedigion cyfredol:18 Gorffennaf (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27 Mai)
8 Awst (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin)
I gael rhagor o wybodaeth: dewch i weld tîm GO Wales yn adeilad Texaco, campws Llambed anfonwch e-bost atom yn graduateacademy@ydds.ac.uk ffoniwch ni ar 01570 424 968 ewch i graduateacademy@ydds.ac.ukDylid gwneud cais ar-lein yn www.gowales.co.uk/graduateacademy
Beth sydd gan gyn gyfranogwyr i’w ddweud?Mae Academi’r Graddedigion yn rhoi mwy o ffocws i chi, yn eich helpu i sylweddoli beth sydd angen i chi ei wneud i gael swydd ac yn fwy na dim mae’n rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i symud i’r byd go iawn.
Yn fy mhrofiad i roedd Academi’r Graddedigion yn werthfawr tu hwnt. Mae fy ngwybodaeth, fy sgiliau a’m hyder cyffredinol wedi cynyddu’n sylweddol.
Fe wnaeth y cwrs fy ymestyn ac rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf i fy hun, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae wedi cynyddu fy hyder, fy hunanymwybyddiaeth a’m gwybodaeth o fyd gwaith yn gyffredinol.
Bu Academi’r Graddedigion yn gymorth i mi adnabod fy sgiliau allweddol a sylweddoli pa fath o swyddi oedd yn gweddu orau i mi, ac o ganlyniad roeddwn yn mynd i fwy o fanylder wrth chwilio am swyddi. Roedd unedau’r ILM hefyd o gymorth wrth i mi chwilio am swydd gan eu bod yn fy ngalluogi i ddatblygu dull ac agwedd mwy proffesiynol.
Teimlaf nawr fod gen i’r llaw uchaf ar raddedigion eraill oherwydd cawsom ein haddysgu drwy enghreifftiau yn seiliedig ar waith, ac rwyf i wedi dangos mod i’n barod i fynd â’m gradd i’r lefel nesaf.
Cafodd Academi’r Graddedigion effaith fawr ar fy ymwybyddiaeth o’r materion dan sylw mewn rheolaeth a bod yn llwyddiannus yn y gweithle. Mae fy hyder cynyddol a’m sgiliau canolbwyntio a rhwydweithio wedi fy helpu i gael a chadw fy swydd bresennol.
Mae Academi’r Graddedigion wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol o ran datblygu fy CV. Mae cyflogwyr fel pe baent â mwy o ddiddordeb ynof, yn enwedig y ffaith mod i wedi dangos fy awydd i ddatblygu a dysgu, ac roeddent yn awyddus i wybod popeth am y profiad gwaith ac asesiad yr ILM.
Prif fantais Academi’r Graddedigion o’m safbwynt i oedd iddo roi cyfeiriad newydd i mi ar adeg pan oedd yn ymddangos mod i wedi dilyn pob opsiwn posibl, a man cychwyn newydd yr wyf wedi gallu adeiladu arno ers hynny.
Mae Academi’r Graddedigion wedi bod yn brofiad gwych. Yn sicr mae wedi cyflawni’i nod trwy roi help llaw inni wneud y cam o’r Brifysgol i’r amgylchedd gwaith.


