Cefnogaeth i Fyfyrwyr Sydd Wedi Gadael Gofal

Buttle UK - Care Leavers

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymrwymedig i ddarparu gofal o’r safon uchaf i’w myfyrwyr. Os ydych chi yn fyfyriwr sydd yn mynd i Addysg Uwch o ofal yna fe fydd darpariaeth a chefnogaeth ar eich cyfer. Fe fydd y gefnogaeth yma ar gael tra eich bod yn gwneud eich penderfyniadau ynglŷn â pha sefydliad i fynd iddo, yn parhau drwy’r broses ymgeisio ac yna ymlaen i gychwyn eich cwrs.

Mae cymorth a gwybodaeth  hefyd ar gael os ydych yn gofalu neu yn cynghori person sydd yn dod o ofal. Yr ydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi derbyn Marc Ansawdd Buttle UK fel cydnabyddiaeth o'n ymrwymiad i adawyr gofal o fewn addysg uwch.

Fel myfyriwr sydd yn dod o ofal, neu fel person sydd yn cynghori pobol sydd yn dod o ofal, eich person cyswllt fydd Lynda Lloyd-Davies (E-bost l.lloyd-davies@ydrindoddewisant.ac.uk neu Rhif ffôn 01570 424722). Mae Lynda yn gweithio fel rhan o’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac fe fydd ganddi wybodaeth a chyngor am pob elfen o ‘r ddarpariaeth sydd gan y Brifysgol i chi.

Yn y Brifysgol fe fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu cynnig:

  • Arweiniad a chymorth gan ein Swyddog Gyrfaoedd am y systemau ymgeisio a’r broses ymgeisio.
  • Cefnogaeth mentor i’ch helpu gyda wythnosau cyntaf y tymor.
  • Cymorth ariannol penodol i bobl sydd yn dod o ofal drwy fwrsarïau’r Brifysgol.
  • Adran Gwasanaethau Myfyrwyr integredig ac effeithiol sydd yn cynnig cefnogaeth ariannol a gwybodaeth ar lety, gofynion arbennig a chwnsela.
  • Cyfarfodydd rheolaidd rhwng ein person cyswllt, Lynda Lloyd-Davies, a’r myfyrwyr er mwyn adnabod unrhyw ofynion penodol a chadw cysylltiad gyda adrannau eraill y Brifysgol.
  • Cymorth i drefnu eich llety yn ystod y tymor ac hefyd yn ystod gwyliau’r Brifysgol os oes angen.
  • Safon uchel o gyfrinachedd i fyfyrwyr sydd yn dod gefndir gofal.

Bellach mae cyfle i chi nodi ar eich taflen UCAS os ydych yn dod o gefndir gofal. Neu hefyd fe all eich cyswllt Gwasanaethau Cymdeithasol rhoi gwybod i ni. Mae hyn yn meddwl y bydd cefnogaeth mewn lle i chi o adeg cynnar iawn.

Rhai safleoedd we perthnasol

www.buttleuk.org/pages/for-care-leavers
www.voicesfromcarecymru.org.uk 
www.thewhocarestrust.org.uk

Cysylltu

Lynda Lloyd-Davies 
Rhif ffon: 01570 424722
E-bost: l.lloyd-davies@ydrindoddewisant.ac.uk