Gwasanaeth Cwnsela - Campws Llambed
Mae Gwasanaeth Cwnsela proffesiynol, sefydledig gan y Brifysgol. Mae’r pedwar Cwnselydd rhan amser yn gweithio’n unol â Fframwaith Moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain. Mae lefel uchel o gyfrinachedd, ac esbonnir hyn yn y sesiwn gyntaf, ac fe’i nodir ym Mholisi Cyfrinachedd y Gwasanaeth a’r ddogfen ategol Y Gwasanaeth Cwnsela a Diogelu Data.
Mae’r Cwnselwyr yn ymdrechu i greu amgylchedd croesawgar ac i wrando mewn ffordd anfeirniadol er mwyn eich galluogi i siarad am eich teimladau a phrofiadau. Mae’n broses gydweithredol ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Mae cwnsela yn symud ar eich cyflymder chi ac yn unol â’ch anghenion chi.
Mae cwnsela ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar y ddau gampws.
Mae’r Cwnselwyr yn darparu’r canlynol:
- Sesiynau cwnsela unigol.
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr newydd ac i staff newydd yn ystod y cyfnod Cynefino.
- Taflenni gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau.
- Cyflwyno sesiynau datblygiad staff yn ôl yr angen.
- Atgyfeirio, fel y bo’n briodol, at gydweithwyr yn y Brifysgol ac at asiantaethau allanol.
- Hwyluso gweithdai i fyfyrwyr yn ôl yr angen.
- Cydlynu rhaglen hyfforddiant Wardeniaid y Neuaddau.
- Rôl ymgynghorol i’r staff.
- Sesiynau achlysurol i grwpiau o fyfyrwyr.
- Mentora a goruchwylio yn ôl yr angen.
- Cynrychiolaeth ar bwyllgorau’r Brifysgol.
- Cyfraniadau i bolisïau’r Brifysgol.
- Cysylltu effeithiol ag Undeb y Myfyrwyr, y Gaplaniaeth, yr Ymgynghorydd Iechyd Meddwl, y Swyddfa Ryngwladol a chydweithwyr Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gwasanaeth Cwnsela
01570 424876
Caplan
01570 424823
neu 07946036936
Wardeniaid y Neuaddau
07975 640200
Is-Lywydd Lles ac Addysg Undeb y Myfyrwyr
01570 422619
Rhifau ffôn defnyddiol
Meddygfa Taliesin, Llambed - 01570 422665
Samariaid - 08457 909090
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru - 01267 235151
Gwybodaeth ar gyfer Myfyrwyr
Y Gwasanaethau Cynghori - Llambed
Taflen Wybodaeth Arweiniad i Lasfyfyrwyr
APWYNTIADAU’R GWASANAETH CWNSELA
Er mwyn gwneud apwyntiad, galwch wrth Dderbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr, neu ffoniwch 01570 424876


