Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn
Dyma ffynhonnell incwm ychwanegol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi gwneud cais am Fenthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n dioddef caledi ariannol. Mae’n rhaid i ymgeisydd brofi hefyd ei fod wedi defnyddio ei ddarpariaeth gorddrafft yn llawn cyn y gellir ystyried cais.
Mae cymorth ariannol ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio o leiaf hanner cwrs amser llawn. Gall myfyriwr wneud cais am arian unrhyw bryd yn ystod y cwrs, a gall ymgeisio eilwaith os yw mewn trafferthion ariannol. Fel arfer ni ddisgwylir i’r arian gael ei ad-dalu. Gweinyddir y cronfeydd gan Bwyllgor y Gronfa Ariannol wrth Gefn sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gyllid, Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r Pwyllgor hwn yn cwrdd bob pythefnos yn ystod y tymor.


