Y Meddygon Arian - Campws Llambed
Mae'r Brifysgol yn darparu gwasanaeth Meddygon Arian i fyfyrwyr.
Nod y gwasanaeth hwn yw rhoi cyngor diduedd i fyfyrwyr ar sut i ddelio a dyled a chynnig arweiniad ar sut i reoli'u harian. Ein prif amcan yw siarad a myfyrwyr newydd sy'n gwneud penderfyniadau a threfniadau ariannol personol am y tro cyntaf. Bydd y Meddygon Arian ar gael i ddarparu gwybodaeth ynglyn a grantiau, benthyciadau myfyrwyr a chymorth ariannol arall y gallwch ymgeisio amdano. Gellir gwneud trefniadau hefyd i gwrdd a myfyrwyr unigol sydd angen cymorth personol gyda'u cyllideb misol. Yn ogystal mae modd i ni drafod a banciau a chwmniau cardiau credyd ar eich rhan, a dehongli termau sy'n anghyfarwydd i chi!
Cysylltu
Ffôn: 01267 676830
E-bost: meddygonarian@ydrindoddewisant.ac.uk


