Gwasanaethau Reprograffig
Nod yr Uned Reprograffeg yw darparu gwasanaethau argraffu, dylunio a gorffennu sy’n gyfleus, yn effeithlon, yn gost-effeithiol, ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae’r gwasanaethau ar gael i’r Brifysgol (yn cynnwys staff, myfyrwyr, ymchwilwyr) a chleientiaid personol a chorfforaethol.
Gellir categoreiddio’r gwasanaethau hyn fel a ganlyn:
- Llungopïo Du a Gwyn
- Llungopïo Lliw
- Argraffu â Lliwiau Sbot
- Argraffu Fformat Llydan
- Dylunio a Chyhoeddi Bwrdd Gwaith
- Rhwymo Arbenigol, Gorffennu
- Lamineiddio
- Prynu Papur
- Prynu Deunydd Argraffedig
- Gwaith Allanol/Masnachol
Cymerwn ein cyfrifoldeb i’r amgylchedd o ddifrif ac rydym wedi ymrwymo i integreiddio rheoli amgylcheddol i holl ystod ein gweithgareddau busnes.
Gallwn ddod o hyd i amrywiaeth o gynhyrchion sy’n ecogyfeillgar ac sydd â chofnod o’u hanes; megis cymeradwyaeth gan Gyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) neu’r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).
Ni fyddwn byth yn defnyddio papur sy’n deillio o ffynonellau eraill megis coedwigoedd glaw Brasil
Staff
| Kevin D.R. Evans Goruchwyliwr yr Uned Reprograffeg k.evans@trinitysaintdavid.ac.uk |
Peter R. Johnson Technegydd Reprograffeg p.johnson@trinitysaintdavid.ac.uk |
Luke Edwards Trainee Reprographics l.edwards@trinitysaintdavid.ac.uk |
Technegydd Reprograffeg dan hyfforddiant

