Gwasanaethau Reprograffig
Ein Gwasanaethau
Llungopïo Du a Gwyn
Copïo mwy nag 20 copi â phrint du neu 40 copi â phrint lliw.
Mae’n llungopiwyr digidol â gallu sylweddol yn caniatáu inni ddarparu gwasanaeth llungopïo cyflym, proffesiynol a chost-effeithiol. Gellir coladu, plygu, styffylu a rhwymo dalennau wedi’u copïo yn llyfrynnau, neu’u cyflenwi fel dalennau rhydd. (Plygu: A4 i A5, A3 i A4, A4 i 1/3 A4. Styffylu: un neu ddau stwffwl ar ochr y dalennau gwastad. Llyfrynnau: dalennau wedi’u plygu (A4 neu A3) ar ffurf llyfryn a’u styffylu yn y meingefn. Noder rhaid i’r nifer o dudalennau fod yn lluosrif o bedwar.)
Rydym yn cadw amrywiaeth eang o bapur a cherdyn lliw at eich dewis, yn cynnwys tryloywderau uwchdaflunydd.
Unwaith yr ystyriwch bapur, costau’r arlliwydd a ffactorau anghyfleustra ac amser, mae’n gwneud synnwyr da a chost-effeithiol i adael i’r Uned Reprograffeg gynhyrchu’ch llungopïau yn hytrach na defnyddio llungopïwr y swyddfa.
Argraffu â Lliwiau Sbot
Pan fydd angen argraffu nifer mawr o gopïau dyma’r dewis mwyaf cost-effeithiol. Nifer cyfyngedig o liwiau sbot sydd ar gael (Pantone 281, Pantone 1665, du, coch a gwyrdd). Dyma’r broses a ddefnyddir i gynhyrchu nwyddau papur y Brifysgol.
Argraffu Fformat Llydan
Argraffu lliw llawn A1 a Baneri (24” lled / hyd).
Dylunio a Chyhoeddi Bwrdd Gwaith
Mae’r Uned Reprograffeg yn cynnig gwasanaeth dylunio a chyhoeddi bwrdd gwaith cynhwysfawr i gwsmeriaid mewnol yn y Brifysgol a chleientiaid allanol yn ardal Llambed. Gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant dylunio ac argraffu, gallwn gynnig atebion dylunio ac argraffu cyflawn. Sylweddolwn y gall y gwaith o gynhyrchu unrhyw lenyddiaeth hyrwyddo weithiau achosi pryder. Credwn mewn defnyddio’n harbenigedd a’n gwybodaeth i arwain y cwsmer drwy’r broses hon, o gam y cydsyniad a’r dylunio yr holl ffordd i’r cynnyrch argraffedig gorffenedig.
Rhwymo Arbenigol a Ffolderi
‘Fastback’: bydd stribed adlynol a selir drwy wres yn cael ei lapio o gwmpas y meingefn. Fe’i defnyddir yn arbennig ar gyfer rhwymo adroddiadau, cyflwyno traethodau hir, modylau a chyfuno nodiadau darlithoedd a thaflenni er mwyn gallu’u defnyddio’n rhwyddach. Gellir rhwymo hyd at 275 o dudalennau (yn ddibynnol ar drwch y papur) ymhob cyfrol.
‘Perffaith’: gludir tudalennau i mewn i glawr sy’n cael ei lapio o’u cwmpas (ar ddull llyfr clawr meddal).
‘Padio’: fe’i defnyddir fel arfer ar gyfer padiau rhwygo, a gludir y dalennau ar y brig neu’r meingefn.
Clawr caled yn cynnwys ffoil aur: fe’i defnyddir ar gyfer cyflwyniad terfynol traethawd hir neu pan fo angen gorffeniad o safon arbennig o uchel. Gellir gosod print ffoil aur ar y clawr a’r meingefn o fewn rhai cyfyngiadau, a gellir rhwymo hyd at 270 o dudalennau (yn ddibynnol ar drwch y papur) ymhob cyfrol.
Ffolderi: ffolderi poced cost-effeithiol wedi’u haddasu i’r cwsmer ac mewn amrywiaeth o feintiau, wedi’u hargraffu ar y tu mewn a’r tu allan.
Gorffennu
Darparwn wasanaeth coladu, pwytho, plygu a thocio llyfrynnau.
Plygu
Gallwn gynnig pum math o ddulliau plygu safonol: plygu sengl, plygu dwbl, plygu acordion afreolaidd, plygu llythyr a phlygu acordion. Gallwn blygu amrywiaeth eang o feintiau a phwysau gan gwmpasu popeth o lythyron i daflenni i fwydlenni.
Lamineiddio
Lamineiddio fformat llydan A4, A3, A1 a Baneri (24” lled / hyd). Mae lamineiddio A1 a Baneri ar gael gyda dewis o orffeniad mat neu sglein.
Cynigiwn wasanaeth lamineiddio o ansawdd uchel, sy’n golygu amgáu print ar ffurf copi caled mewn ffilm blastig sy’n gallu gwrthsefyll dŵr a golau uwchfioled. Mae’r gwasanaeth hwn yn arbennig o ddefnyddiol i’r sawl sy’n argraffu posteri arddangos, neu sydd am sicrhau y bydd ei waith argraffu’n parhau. Sylwer: Er ein bod yn ceisio sicrhau cyflawni’r holl waith i’r safonau uchaf, mae elfen o risg yn y broses lamineiddio. Felly, gofynnwn ichi ddeall mai ar risg y cleient y gwneir yr holl waith lamineiddio. Cymerwn bob gofal ond ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed i ddogfennau yn sgil y broses lamineiddio.
Prynu Papur a Deunydd Argraffedig
Gan ein bod yn prynu cymaint o bapur yn flynyddol, cawn ddisgowntiau sylweddol gan fasnachwyr a chyflenwyr papur. Trosglwyddir y disgowntiau hyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth sy’n dymuno prynu papur at lungopïo a dibenion eraill. Mae papur ag amrywiaeth eang o liwiau, ansawdd ac arddull ar gael. Cynigiwn gyngor i’r Brifysgol ar ei deunydd argraffedig a gallwn ddod o hyd i ffynhonnell allanol i unrhyw wasanaeth (argraffu arbenigol ac ati) na allwn ei wneud yn fewnol.
Meintiau papur ac amlenni
Cyfres A (Papur)
|
A0 |
841 x 1189 mm |
33.1 x 46.81 mod |
Cyfres C (Amlenni)
|
C0 |
917 x 1297 mm |
36.10 x 51.06 mod |

