Gwasanaethau Reprograffig
Gwybodaeth i Staff y Brifysgol
I Adrannau’r Brifysgol, yr Uned Reprograffeg yw’r dewis mwyaf cost-effeithiol ar gyfer prosiectau argraffu. Yn wahanol i argraffwyr masnachol eraill, ein nod yw gwasanaethu’n Prifysgol. Felly nid elw sy'n ysgogi'n ffioedd i Adrannau'r Brifysgol - yn hytrach rydym yn ceisio cadw'r costau mor isel â phosibl, ac oherwydd y swmp mawr o argraffu byddwn yn ei reoli, gallwn drafod cyfraddau gyda’n cyflenwyr gan gyflawni arbedion maint sy’n ein galluogi i drosglwyddo arbedion pellach. Hefyd mae gennym wybodaeth am y sefydliad sy’n gymorth i leihau trafferthion gyda’ch prosiectau argraffu. Rydym yn adnabod amgylchedd y Brifysgol yn dda, gan gynnwys dyddiadau allweddol ar galendr y Brifysgol, a manylion ynghylch defnyddio brandiau i’r Brifysgol.
Yr Uned Reprograffeg yw’r dewis cyntaf ar gyfer argraffu llyfrynnau cwrs a deunyddiau i Adrannau’r Brifysgol. Cynigiwn wasanaeth effeithlon ac isel ei gost, a rhoddwn arweiniad ar fformat a’r dewisiadau economaidd gorau. Mae profiad gennym o ddelio â phopeth o bethau bach unigol i archebion mawr a swmpus, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd dibynadwyedd ac effeithlonrwydd er mwyn sicrhau y gall eich cwrs redeg yn llyfn. Gweler Ein Gwasanaethau
Rheoli logos a brandiau
Mae profiad gennym o ran defnyddio logo'r Brifysgol yn gywir, ac o ran agweddau eraill o reoli brandiau i'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio â rheoliadau brandio yn ogystal â bod o’r ansawdd uchaf ac yn effeithiol yn weledol.
Rydym wedi ymbaratoi i gynhyrchu cardiau busnes, papur â phennawd, amlenni, slipiau cyfarch a rhagor yn gyflym ac yn effeithlon, yr oll wedi’u teilwra i’ch Adran ac wedi’u seilio ar dempledi cymeradwy a gofynion brandio.

