Canolfan Halliwell - Campws Caerfyrddin

Priodasau a Dathliadau

Amodau Archebu

Dylid archebu dros dro yn y lle cyntaf drwy ffonio Swyddfa’r Halliwell ar 01267 222252. Cedwir archeb dros dro am 14 diwrnod.

Bydd angen blaendal o £300 na ellir ei ad-dalu i gadarnhau’r archeb. Anfonir anfoneb am weddill y cyfrif ar ôl y diwrnod mawr.

Codir tâl o hanner pris ar blant dan 11 am brydau bwyd – mae bwydlen arbennig ar gael hefyd, gofynnwch am fanylion.

Dylid cadarnhau nifer terfynol y gwesteion 14 diwrnod cyn y wledd er y derbynnir newidiadau hyd at 48 awr cyn y wledd. Fodd bynnag, codir tâl llawn os ceir gostyngiad yn y niferoedd neu os caiff y wledd ei chanslo lai na 14 diwrnod cyn y wledd.

Priodasau a Dathliadau

Cysylltu